Pont Britannia
Mae cynlluniau ar gyfer trydedd pont rhwng Ynys Môn a’r tir mawr yn cael eu hystyried.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu eu bod nhw’n ymgynghori ar leddfu traffig dros bont Britannia a bod codi pont arall yn un o’r opsiynau.

Yn ôl y cynghorydd Hywel Eifion Jones, sy’n cynrychioli ward Llanidan ar lan y Fenai ar Gyngor Ynys Môn, buasai pobol yn “croesawu ei gwneud hi’n haws i groesi’r Fenai.”

“Mae llawer o bobol yr ynys yn croesi’r Fenai i fynd i’r gwaith yn y bore ac yn dychwelyd yn y nos,” meddai.

“Pont Britannia sy’n cael y rhan fwyaf o’r traffig gan mai hi sy’n cario’r A55,” meddai Hywel Eifion Jones.

“Mae hi’n medru bod yn ddigon tawel yn ystod y dydd ond mae yna adegau prysur, ac mae llif y traffig o’r cwch yng Nghaergybi yn cyfrannu at y traffig.”

Ymhlith yr opsiynau sydd wedi cael eu hystyried yn y gorffennol mae agor un lôn ychwanegol ar adegau prysur penodol, neu godi pont arall.

“Byddai codi pont ychwanegol yn gostus, wrth gwrs, a bydd hynna’n ystyriaeth iddyn nhw yng Nghaerdydd,” meddai Hywel Eifion Jones.