carwyn Jones AC
Rhaid cau rhai ysbytai a diwygio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru neu fe fydd y cyfan yn dymchwel yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mewn cyfweliad ar BBC Wales, dywedodd bod pobl Cymru eisiau gwasanaeth sydd yn “ddiogel ac yn gynaliadwy” gan ychwanegu bod newidiadau i’r GIG yng Nghymru yn angenrheidiol.

Doedd o ddim yn rhagweld chwaith y bydd y Blaid Lafur yn gorfod talu prîs gwleidyddol am fod rhai pobl yn gorfod teithio ymhellach i dderbyn triniaeth.

Mae Byrddau Iechyd ym mhob cwr o Gymru wrthi yn ad-drefnu eu gwasanaethau ac mae hyn wedi ysgogi protestiadau chwyrn gan rai sydd yn gwrthwynebu cau ysbytai ac unedau, a symyd triniaeth cleifion, weithiau i ysbytai yn Lloegr.

“Mae’n amhosib ail- greu gwasanaeth iechyd Prydain yn ei gyfanrwydd yng Nghymru,” meddai.