Llywarch ap Myrddin
Mae swyddog newydd wedi ei benodi i brosiect sy’n creu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg yn y sector ynni yng ngogledd Cymru.

Llywarch ap Myrddin o Gapel Garmon yw swyddog newydd cynllun EgNi sy’n cydweithio â chymunedau i’w helpu i weithredu cynlluniau ynni bach.

Y nod yw creu Asiantaeth Egni Gwyrdd fel bod arbenigedd cyfrwng Cymraeg yn y maes.

“Rydan ni wedi bod yn rhedeg cynlluniau hyfforddi awyr agored a chynllun cyfieithu cymunedol yn llwyddiannus ac yn gweld cyfle arall i roi troedle economaidd i’r Gymraeg gyda prosiect EgNi,” meddai Meirion Davies, cyfarwyddwr datblygu Menter Iaith Conwy, sydd wedi sefydlu EgNi mewn partneriaeth gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Conwy.

Gobaith y fenter yw creu prosiectau ynni a fydd yn eu tro yn creu swyddi i gadw pobol ifanc Gymraeg yn yr ardal.