Mae cwmwl dros y diwydiant amaeth yn sgil yr helynt cig ceffyl mewn byrgyrs, yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Dywedodd Dai Davies wrth Golwg360 na allai cig ceffyl fod wedi cael ei ddarganfod mewn byrgyrs cig eidion mewn dwy archfarchnad “heb fod rhywun yn rhywle wedi torri’r gyfraith”.

Cafodd olion cig ceffyl eu darganfod mewn byrgyrs cig eidion sydd yn cael eu gwerthu yn archfarchnadoedd Tesco ac Iceland.

Mae’r byrgyrs hefyd yn cael eu gwerthu yn Lidl, Aldi a Dunnes Stores.

Roedd olion cig ceffyl mewn 10 allan o 27 sampl a gafodd eu profi, ac un o’r samplau’n cynnwys 29% o gig ceffyl.

Roedd nifer o samplau eraill yn cynnwys cig moch.

Mae Tesco ac Iceland wedi dweud eu bod yn tynnu’r cynnyrch oddi ar eu silffoedd, ond dydy’r Asiantaeth Safonau Bwyd ddim yn credu bod yna le i boeni am beryglon i iechyd pobl.

‘Mae hyn wedi digwydd yn fwriadol’

Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies: “Heb fod rhywun wedi torri’r gyfraith, allai hyn ddim bod wedi digwydd.

“Cig o dramor yw hwn sydd wedi dod i mewn.

“Mae gormod o gig yn dod o’r tu allan heb gael ei blismona’n iawn.

“Mae hyn wedi rhoi cwmwl dros y diwydiant amaeth yn gyffredinol.

“Does dim byd o’i le ar gael cig moch yn y byrgyrs, gall hynny ddigwydd yn rhwydd, ond fe ddylai fod ar y pecyn beth sydd ynddyn nhw. Mae angen ennill hyder y cwsmer.

“Mae’r bai ar y cynhyrchwyr. Mae hyn wedi digwydd yn bwrpasol – dim ond yn bwrpasol y cewch chi 29% o gig ceffyl mewn byrgyrs cig eidion, ac rwy’n gobeithio y bydd achos llys i ddod.

“Mae’n warthus bod modd cymysgu pecynnau sy’n dod o dramor a’u gwerthu nhw fel cig o’r wlad yma.

“Mae rhywun yn rhywle wedi ffeindio ffordd o ddod â chynnyrch o safon isel i mewn i’r wlad, ac mae hynny’n creu cystadleuaeth i gynhyrchwyr yn, dyweder, Sir Fôn, ac maen nhw wedyn o dan anfantais. Rhaid i bawb ddilyn y rheolau.

“Rhaid plismona’r cig yn fwy agos.

“Profion DNA ddaeth â’r sefyllfa i’r wyneb, ond mae’n gyfrifoldeb ar yr archfarchnadoedd i roi beth sydd yn y pecyn ar label ar y pecyn.”