April Jones
Mae  dyn 46 oed sydd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.

Bu Mark Bridger, o Geinws ger Machynlleth, yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug bore ma.

Roedd rhieni April, Coral a Paul Jones hefyd yn y llys  wrth i Bridger gyflwyno ei ble.

Fe ddiflannodd April Jones ger ei chartref ar ystâd Bryn-y-Gog ym Machynlleth ar Hydref 1 y llynedd, a chafodd Mark Bridger ei arestio’r diwrnod canlynol.

Mae Bridger hefyd wedi ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder sy’n cyfeirio at ymdrech i waredu a chuddio corff. Mae wedi gwadu’r cyhuddiad.

Dywedodd ei fargyfreithiwr heddiw ei fod yn debygol o ddweud ei fod wedi achosi marwolaeth April ond nad oedd wedi ei llofruddio.

Cafodd cais i gynnal yr achos y tu hwnt i ogledd Cymru ei wrthod gan y barnwr Mr Ustus Griffith-Williams. Roedd yr amddiffyniad wedi dweud bod Bridger yn poeni na fyddai’n cael achos teg.

Mae’r chwilio am gorff April yn parhau wedi toriad ar gyfer y Nadolig, ac mae 16 o dimau wrthi’n chwilio ardaloedd cyfagos.

Mae disgwyl i’r achos yn erbyn Mark Bridger ddechrau ar 25 Chwefror.