Bu’n hen gân ym myd y canu roc bod bandiau yn dod i ben oherwydd ‘gwahaniaethau creadigol’, a dyna sydd wedi taro’r hoelen olaf yn arch y Race Horses.

Wrth egluro’r penderfyniad i roi’r gitârs yn y to, fe ddywedodd y Race Horses mewn datganiad ei bod “hi wedi dod i’r amlwg ein bod yn mynd i gyfeiriadau gwahanol yn greadigol”.

Bydd y Race Horses yn chwarae eu gig ffarwel yng Nghlwb Ifor Bach ar Chwefror y 9fed.

Ond ni fyddan nhw’n mynd ar y daith oedd wedi ei threfnu ar gyfer mis Chwefror gyda’r Kaiser Chiefs.

Twitter yn boeth

Dyl Mei @dylmei

“Falch es i gig clwb canol dre Racehorses wan.”

Cowbois Rhos Botwnnog @CowboisRhB

“Newydd trist Race Horses. Band arbennig, wedi chwarae dipyn efo nhw ers y cychwyn fel Radio Lux. Pob lwc”

John Rostron (Gŵyl Sŵn) @john_rostron

“Oh wow. Sorry to hear that. You have left some great music and fond memories though”

Gareth Potter @Monsieur_Potter

“Great band. Sad news”

Osian Gruffydd @Osian Gruffydd

“Trist iawn bod Race Horses yn gwahanu”

Rhys Taylor @RhysTaylor3

“Trist i glywed bod Race Horses yn gwahanu. Llongyfs bois ar flynyddoedd o lwyddiant! Band da.”

Ian Hughes @northwalesmusic

“Miserable news. The day is pretty much ruined. They’re playing a farewell show Feb 9 – Cardiff Clwb Ifor Bach.”