Vaughan Roderick
Mae golygydd materion Cymreig y BBC wedi cyhuddo Carwyn Jones o wrthod cael ei holi’n fyw ar raglenni gwleidyddol Cymraeg.

Daw’r gŵyn ddiweddara’ ar gynffon sylwadau tebyg gan arweinwyr Plaid Cymru a’r Lib Dems yn y Cynulliad, sy’n cwyno bod Carwyn Jones yn osgoi ateb cwestiynau ar lawr y Siambr ac yn troi’r sesiynau holi-ac-ateb yn bantomeim.

Ymddangosodd Carwyn Jones ar soffa’r rhaglen gylchgrawn Heno wythnos ddiwethaf, a chael ei holi gan Angharad Mair a Gerallt Pennant.

Mewn cyfres o sylwadau trydar dywedodd Vaughan Roderick fod “Carwyn yn ddigon parod i gael ei holi ar Heno. Mae’n gwrthod CF99 ac O’r Bae. Pam tybed?”

Ychwanegodd fod “gweinidogion Cymru yn gwrthod cymryd rhan yn fyw ym mhrif raglenni gwleidyddol S4C a Radio Cymru.

“Maent yn yn ddigon parod i ymddangos ar raglenni Saesneg ond Carwyn Jones neu Alun Davies ar CF99? Dim ffiars o beryg!”

Mae golwg360 yn disgwyl am ymateb y llywodraeth i’r cyhuddiadau.

CF99 yw rhaglen S4C ar hynt a helynt y byd gwleidyddyol yng Nghymru. Yn ogystal â chyflwyno honno, mae Vaughan Roderick hefyd yn angori rhaglen wleidyddol O’r Bae ar BBC Radio Cymru.