Mae llai o gerddoriaeth ar BBC Radio Cymru o heddiw ymlaen ar ôl i drafodaethau gyda chyfansoddwyr Cymraeg ddod i ben ddoe heb gytundeb.

Methodd y BBC ac Eos, y corff hawliau darlledu Cymraeg newydd, â dod i gytundeb ddoe sy’n golygu na fydd Radio Cymru yn cael darlledu dros 30,000 o ganeuon Cymraeg o heddiw ymlaen.

Ers hanner nos mae hawliau darlledu ar gyfer 297 o gyfansoddwyr Cymraeg a 34 o gwmnïau cyhoeddi wedi cael eu trosglwyddo o’r PRS (Performing Rights Society) i Eos, corff Cymreig sy’n galw am daliadau uwch na’r 50c y funud sydd ar gael ar hyn o bryd am hawl darlledu.

Mae Radio Cymru wedi dweud y bydd yn gorfod cwtogi dwy awr ar ddarllediadau’r orsaf, gan ddechrau am 6.30 yb yn lle 5.30, a gorffen am 11yh yn lle hanner nos.

Bydd hefyd yn golygu y bydd cerddoriaeth Saesneg yn cael ei darlledu ar Radio Cymru.

‘Gwneud drwg’

Mewn llythyr at Gyfarwyddwr BBC Cymru fe ddywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, fod “y drwg y gallai newid sylweddol ei gael ar ein cynulleidfaoedd yn bryder mawr iawn” iddi.

“Does neb yn ennill o weithredu fel hyn, yn sicr nid cynulleidfa Radio Cymru,” meddai.

Daeth S4C i gytundeb gydag Eos dros y penwythnos, ac mae disgwyl i’r trafodaethau rhwng Eos a’r BBC barhau yn ystod yr wythnos yma.

Roedd pennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi apelio ar Eos cyn y Nadolig i dderbyn “cynnig sylweddol” am ddarlledu caneuon ar Radio Cymru, ond dywedodd Eos eu bod nhw’n “siomedig iawn” fod y BBC yn rhyddhau datganiadau tra bod y broses drafod yn mynd yn ei blaen.