Aled Sion Davies yn derbyn ei fedal aur yng Nghemau Paralympaidd Prydain (Llun PA)
Mae’r tri athletwr o Gymru a enillodd fedalau aur yng Ngemau Paralympaidd Llundain wedi cael MBE yn anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae’r tri – Josie Pearson, Aled Sion Davies a Mark Colbourne – wedi cael eu hanrhydeddau am wasanaethau i chwaraeon a’r cyfraniad at lwyddiant Gemau Paralympaidd Llundain 2012.

Roedd Josie Pearson o’r Gelli Gandryll wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth F51 disgen. Hon oedd yr ail waith iddi gystadlu mewn Gemau Paralympaidd, ar ôl dod y fenyw gyntaf i gystadlu dros Brydain yng ngemau Beijing 2008.

Fe ddaeth Mark Colbourne yn seiclwr paralympaidd llwyddiannus ar ôl iddo ddioddef damwain para-gleidio yn 2009. Datblygodd ei ddawn trwy raglen seiclo academi Chwaraeon Anabledd Cymru, ac enillodd fedal arian ym mhencampwriaethau rasys seiclo ffordd y byd 18 mis ar ôl ei ddamwain, cyn ennill medal aur a dwy fedal arian yng ngemau Llundain.

Enillodd Aled Sion Davies Aur yn y gystadleuaeth F42 disgen a medal efydd yn y gystadleuaeth F42 siot. Mae wedi bod yn athletwr paralympaidd ers pan mae’n 14 oed.

Mae ei hyfforddwr Anthony Hughes hefyd wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i chwaraeon paralympaidd.