Bethan Jenkins
Mae’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins wedi cael  ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o yfed a gyrru.

Cafodd AC tros Orllewin De Cymru ddirwy o £750 a chostau o £85. Roedd Bethan Jenkins, 30, wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad.

Cafodd ei harestio yn oriau mân y bore yng Nghaerdydd ar 14 Hydref ar ol bod yn aros yn nhy ei ffrind. Roedd lefel yr alcohol yn ei gwaed dros ddwywaith yr hyn ddylai fod.

Fe ddywedodd mewn datganiad wedyn ei bod wedi bod yn diodde’ o broblemau iechyd meddwl a bod angen iddi fynd i’r afael â hynny.

‘Iselder’

Mewn datganiad bore ma dywedodd Bethan Jenkins: “Mae hwn yn ddigwyddiad yr wyf yn difaru o waelod calon, ac rwyf yn ymddiheuro am fy ymddygiad.

“Y tro hwn, disgynnais yn is o lawer na’r safonau a osodais i mi fy hun, ac yr wyf felly yn derbyn penderfyniad y barnwr yn hyn o beth.

“Carwn ddiolch i’r heddlu am y dull y gwnaethant drin y broses hon.

“Bu hwn yn gyfnod anodd, lle dechreuais ddod i delerau ag iselder am y tro cyntaf.

“Mae cyfeillion ac eraill, gan gynnwys llawer o Orllewin De Cymru, y rhanbarth yr wyf i mor hynod falch o’i chynrychioli, wedi rhoi cefnogaeth ardderchog i mi, ac yr wyf wir ddiolchgar am hynny.

“Byddaf  wastad yn ddiolchgar iddynt am eu caredigrwydd, fu’n gysur mawr i mi.”

‘Diarddeliad yn parhau’

Dywedodd Alun Ffred Jones, cadeirydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad: “Mae Bethan Jenkins wedi pledio’n euog i’r drosedd ddifrifol ac anghyfrifol o yrru tra dan ddylanwad alcohol.

“Ar hyn o bryd mae hi ar absenoldeb salwch a bydd ei diarddeliad o’r grŵp yn parhau hyd nes ei bod yn dychwelyd i’r gwaith, pan fydd y grŵp yn ystyried y mater ymhellach. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach yn y cyfamser.”