Puerto Madryn heddiw
Mae un o ddarlithwyr Prifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio i hanes gŵyl fwyaf arwyddocaol Cymry’r Wladfa, Gŵyl y Glaniad.

Mae Gŵyl y Glaniad yn cael ei chynnal ar 28 Gorffennaf bob blwyddyn, yr union ddyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd y Mimosa. Bydd 2015 yn nodi cant a hanner o flynyddoedd ers i’r fintai gyntaf o Gymru ymsefydlu ym Mhatagonia.

Bwriad Dr Geraldine Lublin, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Sbaeneg yn Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu’r Brifysgol yw dilyn trywydd Gŵyl y Glaniad o’i dechreuadau er mwyn deall ei datblygiad ar hyd y degawdau a gweld beth yw ei harwyddocâd heddiw.

Defnyddiodd Dr Lublin £500 o gyfraniad gan Gronfa Goffa Thomas Ellis i dalu at y gost o deithio i Chubut, Patagonia lle bu’n ymweld ag Archif Hanesyddol Talaith Chubut er mwyn ei chynorthwyo gyda’r gwaith ymchwil.

Yn ystod yr ymweliad, rhoddodd Dr Lublin, sy’n enedigol o’r Ariannin, ddarlith am y pwnc yn Fforwm Rhyngwladol y Cymry ym Mhatagonia, fforwm a gynhelir bob yn ail flwyddyn er mwyn rhannu gwybodaeth am wahanol agweddau ar ddiwylliant Cymry Patagonia.

‘‘Mae archwilio hanes Gŵyl y Glaniad ar drothwy ei phen-blwydd wedi bod yn agoriad llygad, gan i mi ddarganfod pa mor gynnar wnaeth yr Ŵyl ennill cymeradwyaeth swyddogol gan awdurdodau’r Ariannin,” meddai Dr Lubin.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith, a hoffwn ddiolch i Gronfa Goffa Thomas Ellis wnaeth fy ngalluogi i deithio i Batagonia er mwyn creu cysylltiadau a chasglu gwybodaeth mor werthfawr.’’