Yn 90 oed bu farw’r cyn-blismon Arthur Rowlands a gafodd ei saethu a’i ddallu gan leidr dros 50 mlynedd yn ôl.

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, wedi talu teyrnged i’w “ddewrder anhygoel tra’n gwneud ei waith bob dydd.”

Yn 1961 cafodd Arthur Rowlands ei saethu yn ei wyneb gan leidr, Robert Boynton, yn agos i’r Bont ar Ddyfi ger Machynlleth.

Dychwelodd i weithio ar switsfwrdd Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon.

“Roedd yn ysbrydoliaeth ac yn graig o wybodaeth i lu o swyddogion tan iddo ymddeol yn yr 1980au,” meddai Gareth Pritchard.

“Byddwn i gyd yn ei golli’n fawr ond ni fyddwn yn ei anghofio,” meddai.

Derbyniodd Arthur Rowlands y George Medal am ddewrder, a chafodd ei urddo yn aelod o’r Orsedd yn 1980.