Llanelwy dan ddwr
Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn Llanelwy dros y Sul i roi cymorth a chefnogi y rhai wnaeth ddiodde yn y llifogydd yno dydd Mawrth diwethaf.

Cynhelir digwyddiad ‘Carol a Chomedi’ yn y Gadeirlan heno, digwyddiad drefnwyd cyn y llifogydd. Bydd casgliad yn cael ei wneud ar gyfer y rhai sydd wedi diodde.

Bore yfory (Sul) bydd gwasanaeth arbennig Cristingl ar y themau “Golau yn ein Tywyllwch” yn cael ei gynnal yn y Gadeirlan ac yna yn y prynhawn bydd aelodau’r gymuned yn cynnau canhwyllau ac yn gweddio yno.

Dywedodd y Gwir Barchedig Nigel Williams, Deon y Gadeirlan y bydd  y  gwasanaeth Cristingl yn gyfle “i bobl gael gweddio ac adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi digwydd.”

Bydd parti Nadolig i blant lleol hefyd yn cael ei gynnal brynhawn yfory ym maes carafannau Lyons Eryl Hall. Cynhaliwyd parti stryd y ddinas neithiwr.

“Rydan ni wedi bod yn cynnnal ein parti Nadolig ar y stryd ers sawl blwyddyn bellach ,” meddai’r cynghorydd lleol Denise Hodgkinson. “Tydyn ni ddim yn mynd i adael i’r llifogydd effeithio ar ein ysbryd Nadoligaidd  – rydyn ni eisiau cynnal ysbryd pobl a chadw pethau mor normal ag sy’n bosib.”

Ymweliad y Tywysog

Bydd y Twysog Charles yn ymweld â Llanelwy bore Llun. Bydd yn cyfarfod y rhai sydd wedi diodde oherwydd y llifogydd a chynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys.

Mae’r Tywysog hefyd wedi gofyn i’r un o’i elusennau, ‘Busnes yn y Gymuned’, i helpu gyda’r gwaith o atgyweirio’r difrod.

Llifogydd Rhuthun

Draw yn Rhuthun, dywed swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ei bod yn ymddangos bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd ar stâd Glasdir yn cydymffurfio efo’r amodau cynllunio ac nad yw’n glir hyd yma pam bod dwr wedi llifo i mewn i’r tai wrth i afon Clwyd orlifo.

Roedd cwmni Taylor Wimpey wedi adeiladu arglawdd ac wedi codi lefel y lloriau yn y tai yn unol ag amodau’r caniatad cynllunio ac yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Ddinbych “mae’n edrych yn debyg bod yr amddiffynfeydd yn ymddangos fel petae nhw’n cydymffurfio efo’r amodau osodwyd fel rhan o’r broses gynllunio.”