Mae gan Gymru blaid genedlaetholgar newydd asgell dde sy’n credu mewn creu gwlad annibynnol fydda ddim yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Bwriad Plaid Glyndwr yw rhoi dewis arall i genedlaetholwyr sydd yn anghytuno efo dyhead Plaid Cymru am Gymru werdd Sosialaidd.

Yn ôl y Cadeirydd mae angen plaid sy’n arddel yr awydd am annibyniaeth i Gymru yn blwmp ac yn blaen.

“Mae yna lawer o bobol sy’n Genedlaetholwyr, ond maen nhw’n sibrwd y peth,” meddai Dennis Morris, gŵr 55 oed sy’n byw yn Wrecsam ac yn gyn-aelod o Blaid Cymru.

“Does dim byd yn bod ar genedlaetholwyr. Yr oll yr ydan ni eisiau ydy rheoli ein materion ein hunain…tydan ni heb ffurfio Plaid Glyndwr i ladd ar Blaid Cymru, mae ein amcanion ni’n wahanol.”

Fydd Plaid Glyndwr ddim yn rhannu awch Plaid Cymru at ffermydd gwynt a phaneli solar.

“Mae ganddon nhw’r ffantasi werdd yma, fydda’n wych mewn byd delfrydol. Ond rydan ni mewn dirwasgiad, a dylai swyddi ddod cyn unrhyw bolisïau gwyrdd.

“Ar hyn o bryd mae rhoi bwyd ar y bwrdd a thalu’r morgais yn bwysicach. Mae polisïau gwyrdd yn dda i’r amgylchedd ond yn creu ychydig iawn o swyddi.”

Gwrthwynebu gwladychu

Annhegwch mawr yng Nghymru heddiw yw bod teuluoedd o Loegr yn cael cartrefi ar rent yng Nghymru, ar draul y Cymry eu hunain, yn ôl Dennis Morris.

Mae’n cyfeirio at y stori ddiweddar yn The Guardian am gynghorau Llundain yn chwilio am dai i’w rhentu ym Merthyr Tudful, ar gyfer teuluoedd fydd methu fforddio byw ym mhrifddinas Lloegr pan fydd cwtogi at fudd-daliadau fis Ebrill nesaf.

“Mae yna 2,000 o bobol ar restr aros [am dŷ] ym Merthyr, ac rwan mae son am drosglwyddo pobol o Lundain i Ferthyr.

“Lle mae’r 2,000 o bobol ym Merthyr i fod i fynd?

“Mae’r bennod olaf yma am gynghorau yn Llundain yn trosglwyddo pobol i Ferthyr yn y newyddion ers wythnos.

“Ond dw i heb weld unrhyw aelod Plaid Cymru yn siarad yn erbyn hyn. Does neb wedi dweud dim.

“Ac eto yn y dafarn a’r swyddfa bost leol dyma mae pobol yn ei drafod. Mae pawb yn trafod hyn heblaw’r gwleidyddion. Mae hynny’n hollol anghywir.”

Y cyfweliad llawn yn Golwg yr wythnos yma.