Brian May
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cael llif o alwadau ffôn gan ffermwyr sydd wedi digio gyda chyn-gitarydd y band Queen am adael i geirw gael eu difa ar ei dir tra’i fod yn lobïo yn erbyn difa moch daear yng Nghymru ar yr un pryd.

Mae’n debyg bod Brian May wedi gadael i 23 o geirw gael eu difa ar ei stad 139 acer yn Dorset tra’n ymgyrchu yn erbyn y difa arfaethedig yn Sir Benfro.

Dywedodd llefarydd TB ac is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Walters: “Mae’r faith bod Brian May yn derbyn yr angen i ddifa ceirw er mwyn achub coed ond ddim yn cefnogi difa moch daear i amddiffyn gwartheg wedi achosi gwylltineb ymysg ffermwyr Cymru.

‘Rhagrith’

“Mae staff yr undeb wedi derbyn nifer fawr o alwadau dros y penwythnos gan ffermwyr sy’n credu bod y lefel yma o ragrith yn anhygoel ac mae’r peth yn destun siarad yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol yn Llanfair ym Muallt heddiw.”

Roedd Brian Walters hefyd yn feirniadol o oblygiadau gweithredoedd Brian May.

“Roedd Mr May yn ganolog yn yr ymgyrch i stopio difa moch daear yng ngorllewin Cymru ac mae’r holl  dystiolaeth wyddonol yn awgrymu bod llwyddiant ei ymgyrch yn golygu bod mwy o wartheg yn mynd i farw.

“Mae’r ffaith ei fod yn rhoi caniatâd i ddifa ceirw ar ei dir ei hun ar yr un pryd yn syndod.”