Mae uwch-swyddog gyda Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr nesaf  Cymdeithas y Sioe Frenhinol.

Mae Steve Hughson yn fab ffarm o Bontnewydd-ar-Wysg ym Maesyfed a bydd yn olynu David Walters sydd wedi bod yn brif weithredwr ar y Sioe Frenhinol am 28 mlynedd ac sy’n ymddeol ym mis Mai.

Mae Steve Hughson ar hyn o bryd yn Brif Uwch-arolygydd yn Nyfed Powys ac wedi bod yn gweithio ar blismona’r sioeau yn Llanelwedd.

“Yn ystod ei yrfa hir yn yr heddlu mae wedi canolbwyntio ar gefnogi amaeth a chefn gwlad ac mae ei apwyntiad yn rhoi profiad rheoli sicr a gweledigaeth wrth lyw y gymdeithas,” meddai John Davies, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y Sioe Frenhinol.

Nid yw’n siarad Cymraeg yn rhugl medd y Gymdeithas ond mae wedi cofrestru ar gwrs dwys ym Mhrifysgol Bangor.

“Rwy’n ymwybodol iawn o gyfraniad y Gymraeg i lwyddiant y gymdeithas a’r sioe ac am y rheswm yna byddaf yn datblygu ymhellach fy sgiliau Cymraeg,” meddai Steve Hughson.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Mawrth.