Damwain awyren Munich
Fe fu farw’r chwaraewr pêl-droed o Gymru a oroesodd drychineb Munich.

Roedd yr asgellwr de, Kenny Morgans, yn 73 oed, yn ôl gwefan Manchester United.

Dim ond 18 oed oedd Morgans adeg y ddamwain a laddodd y rhan fwya’ o dîm enwog y Busby Babes ond fe lwyddodd i wella’n iawn.

Roedd wedi bod yn gaeth dan un o olwynion yr awyren am tua phum awr cyn cael ei achub.

Ei yrfa

Fe chwaraeodd 23 o weithiau i Man Utd cyn symud i glwb ei dref enedigol, Abertawe, yn 1961 ac wedyn i Newport County yn 1964. Fe ymddeolodd yn 1967 ar ôl chwarae 125 o weithiau i Gasnewydd a sgorio 44 o weithiau.

Roedd wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau i gofio am ddamwain Munich dair blynedd yn ôl.