Leanne Wood
Mae Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi dweud ei bod hi am frwydro am sedd yn y Cynulliad mewn etholaeth yn hytrach nag ar restr ranbarthol.

Mae Leanne Wood wedi cynrychioli Canol De Cymru ers 2003 ond mewn darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth heno bydd hi’n cyhoeddi ei bwriad i sefyll mewn etholaeth.

Dywedodd Leanne Wood ei bod hi’n cydnabod bod risg i ildio sedd ranbarthol ddiogel ac ymladd mewn etholaeth, ond ei bod hi’n “risg sy’n werth ei gymryd.”

“Ni fydd ein gwleidyddiaeth ni yn cael ei hadfywio trwy chwarae’n saff,” meddai.

Nid yw’n sicr eto pa etholaeth y bydd hi’n ymladd, a dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mai’r aelodau lleol yn yr etholaethau sy’n penderfynu pwy fydd eu hymgeisydd nhw.

Dywedodd Leanne Wood mai swyddogaeth plaid wleidyddol yw cipio grym er mwyn “ei ddosbarthu a’i sianelu i’r rheiny sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf – y bobol eu hunain.”

“Mae’n rhaid i ni fel plaid ennill dwy ran o dair o’r seddi etholaethol er mwyn cyflawni ein nod o ddod yn brif blaid Cymru.

“Mae arweinwyr yn cael eu galw’n arweinwyr am reswm. A fy mwriad i yw arwain,” meddai Leanne Wood.

Mae Leanne Wood yn frodor o’r Rhondda, sedd a gafodd ei hennill gan Geraint Davies o Blaid Cymru yn 1999 ond sydd wedi cael ei chynrychioli ers 2003 gan Weinidog Addysg presennol Cymru, Leighton Andrews.