Bethan Jenkins
Mae’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins wedi cael ei chyhuddo o yfed a gyrru.

Cafodd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru ei harestio yn Llandaf yn ystod oriau mân 14 Hydref ar amheuaeth o yfed a gyrru ac mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru heddiw wedi cadarnhau fod dynes 30 oed o Gastell Nedd wedi cael ei chyhuddo o yfed a gyrru.

Mae disgwyl i Bethan Jenkins ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ar Ragfyr 19.

Mae hi wedi cael ei hatal o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad “tra bo’r broses cyfiawnder yn cymryd ei gwrs.”