Daeth Catherine Zeta-Jones i Gymru heddiw i gefnogi apêl i godi arian ar gyfer ysbyty plant Arch Noa yng Nghaerdydd.

Teithiodd o Lundain lle mae’n gwneud ffilm gydag Antony Hopkins ar hyn o bryd.

Yr actores 43 oed agorodd yr ysbyty arbenigol yn 2006, sy’n cael ei ailenwi heddiw.

“Mae’r ysbyty wastad wedi bod yn achos agos at fy nghalon,” meddai Catherine Zeta-Jones, sy’n fam i ddau o blant ac yn wraig i Michael Douglas.

Ysbyty Arch Noa i blant

Mae’r ysbyty yn trin tua 25,000 o blant a phobol ifanc, ynghyd â 75,000 o gleifion allanol gan ddarparu triniaeth achub-bywyd i blant difrifol wael sy’ angen gofal arbenigol.

Ar hyn o bryd mae criw’r ysbyty yn anelu at godi £8 miliwn ar gyfer uned gofal dwys a phwll hydrotherapi.

“Hyd’noed yn y dyddiau economaidd du hyn, mae pobol yn parhau i noddi’r ysbyty arobryn yma,” meddai Zeta-Jones.