Mark Isherwood
Mae angen i Gymru wneud gwell job o drin ei chyn-filwyr, yn ôl Ceidwadwr blaenllaw a fydd yn arwain dadl ar y pwnc ym Mae Caerdydd fory.

Fe fydd y grwp Ceidwadol yn y Senedd yn galw am ragor o gefnogaeth i gyn-filwyr sy’n diodde’ o PTSD (post traumatic stress disorder), gan gynnwys galwad am sefydlu canolfan Gymreig i ofalu am y milwyr hynny.

“Mae’n syml – mae’n rhaid gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr, a’i gwella’n ddramatig hefyd,” meddai Mark Isherwood, yr Aelod Cynulliad a fydd yn cyflwyno’r cynnig.

“Mae’n glir fod modd gwneud llawer mwy, yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n diodde’ o PTSD. Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth lawn i greu canolfan i ofalu am ddioddefwyr fel rhan o’r ffordd ymlaen.

“Mae angen i gyn-filwyr wybod pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, ac mae angen i ni benderfynu sut ydan ni am gynnig cefnogaeth i’r cyn-filwyr a’u teuluoedd.”