Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cefnogi galwadau am ymchwiliad newydd i honiadau bod Tori blaenllaw’n rhan o gylch o bedoffiliaid yng ngogledd Cymru 30 mlynedd yn ôl.

Dywed Keith Towler mai ymchwiliad llawn yw’r unig ffordd o osgoi amheuon bod pobl bwerus wedi celu’r gwirionedd oddi wrth y cyhoedd. Fe fydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones yfory’n pwyso am ymchwiliad o’r fath.

Daw ei sylwadau ar ôl i ddioddefwr ymosodiad rhywiol, un o gyn-drigolion cartref plant Bryn Estyn ger Wrecsam, feirniadu’r ffordd y cafodd Ymchwiliad Waterhouse ei gynnal 15 mlynedd yn ôl

Fe wnaeth y tribiwnlys, o dan arweiniad Syr Ronald Waterhouse, wrando ar dystiolaeth gan fwy na 650 o unigolion a oedd wedi byw mewn tua 40 o gartrefi rhwng 1974 a 1990, gan gyhoeddi ei adroddiad yn 2000.

Tystiolaeth dioddefwr

Ond mewn cyfweliad ar Newsnight nos Wener, dywedodd y dioddefwr, Steve Messham, nad oedd yn gallu tynnu sylw at gam-drin a ddigwyddodd y tu allan i’r system ofal.

“Y tu allan i’r cartref, roedd fel petaech yn cael eich gwerthu, roedden ni’n cael ein cymryd i’r Crest Hotel yn Wrecsam, yn bennaf ar nosweithiau Sul, lle bydden nhw’n rhentu ystafelloedd,” meddai. “Dw i bob amser yn cofio un noson benodol pan ges i fy nhreisio i bob pwrpas, fy nghlymu i lawr a’m cam-drin gan naw o wahanol ddynion.”

Roedd aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol a oedd â chysylltiadau agos at Margaret Thatcher yn eu plith.

Wrth gefnogi’r alwad am ymchwiliad llawn, meddai Keith Towler:

“Mae rhywun sy’n amlwg wedi dioddef camdriniaeth ffiaidd yng nghartref Bryn Estyn yn yr 1970au a’r 80au yn dweud ar gamera iddo fod eisiau dweud pethau yn Ymchwiliad Waterhouse, a phobl eraill wedi ei rwystro a’i wahardd rhag siarad am bobl a oedd wedi ei gam-drin.

“Mae hyn yn gwbl anghyfiawn, ac mae’r ffaith ei fod wedi dweud y pethau hyn ar goedd yn golygu bod yn rhaid inni ymateb i hyn.

“Rhaid i’r ymchwiliad ddatgan yn glir y bydd yn mynd yr holl ffordd ac y bydd yn sicrhau pob pob tystiolaeth y mae tystion a dioddefwyr eisiau ei roi yn cael gwrandawiad llawn.

“Ddylai neb gael ei warchod rhag y gwir. Mae angen i gymdeithas wybod ei bod hi’n lân yn yr ystyr hwnnw.”