Mae aelod amlwg o Gylch yr Iaith wedi lladd ar S4C am ystyried rhoi’r dewis o droslais Saesneg ar rai rhaglenni.

Ond mae AC Arfon a chynhyrchydd C’Mon Midffîld yn credu ei fod yn syniad ardderchog.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C mi fyddai’r gwasanaeth troslais Saesneg – ar gael drwy bwyso’r botwm coch – yn talu amdano’i hun wrth i’r Sianel ddenu mwy o wylwyr yn ei sgîl, gan gynyddu mwy o bres hysbysebion.

Ond yn ôl un o hoelion wyth Cylch yr Iaith mae gormod o Saesneg ar raglenni’r Sianel fel ag y mae, ac nid yw’n croesawu’r syniad diweddara’ i ddenu mwy i wylio’r arlwy.

“Mae e’n dad-wneud popeth cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Blaid Cymru.

“Os ydyn nhw’n fodlon rhoi’r Gymraeg i ni ar sianeli eraill, fydden i’n fodlon ei ystyried e wedyn.

“Hynny yw, mae digon o broblem i gadw’r Sianel yn Gymraeg fel ag y mae hi. Mae hwnna’n ofid mawr i Gylch yr Iaith, bod yna gymaint o Saesneg arno fe’n barod.

“Wel rydych chi’n ychwanegu hwn ato fe, ac wrth gwrs dyw hi ddim yn Sianel Gymraeg wedyn.”

Ehangu cynulleidfa

Nid yw Aelod Cynulliad Arfon a chyn-Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru yn gweld unrhyw broblem.

“Alla i ddim gweld bod o’n fygythiad o unrhyw fath i’r Sianel,” meddai Alun Ffred Jones o Blaid Cymru.

“Os ydy o’n ehangu’r gynulleidfa ac yn rhoi mynediad i bobol ddi-Gymraeg i’r gwasanaeth, pam lai?”

Mi fyddai’n wasanaeth “ardderchog ar gyfer y rhai sydd a’u Cymraeg ddim digon da”, meddai.

Dim angen troslais Saesneg i rygbi na phêl-droed

Ar hyn o bryd mae S4C yn darparu’r dewis o droslais Saesneg ar raglenni rygbi a phêl-droed.

Ond mae Alun Ffred Jones yn credu nad oes angen sylwebaeth yn y ddwy iaith ar gyfer chwaraeon, oherwydd bod tuedd i droi at y Saesneg mewn clybiau a thafarnau fel bod pawb yn deall y sylwebaeth.

“Fyswn i’n dadlau yn erbyn rhoi sylwebaeth yn Saesneg [ar gyfer chwaraeon] achos wedyn mae’r demtasiwn i droi i’r Saesneg, yn enwedig mewn tafarnau neu mewn clybiau rygbi neu bêl-droed.”