Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n gwadu fod y blaid yn methu â sicrhau cefnogaeth ei haelodau i’r Bleidlais Ie ymhen wythnos.

“Dydw i ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth yn y gwaith yr ydw i wedi bod yn ei wneud, ac mewn ardaloedd lle mae’r blaid yn gryf, ein bod ni’n mynd i gael unrhyw drafferth i berswadio pobol i bleidleisio ‘Ie’,” meddai Kirsty Williams.

Roedd hi’n ymateb i honiadau bod rhai o gynghorwyr y Democratiaid yn mynd i bleidleisio ‘Na’.

Mae un cynghorydd yn Wrecsam, Phil Wynn, eisoes wedi dweud y byddai pleidlais ‘Ie’ yn gam at annibyniaeth ac yn ddrwg i ogledd-ddwyrain Cymru.

Ceredigion

Yn awr, mae Plaid Cymru yng Ngheredigion yn honni bod un o gynghorwyr y Democratiaid yno hefyd am fynd yn groes i bolisi ei blaid ei hun.

Maen nhw’n dweud bod Paul Hinge, sy’n gynghorydd tros ardal Bow Street a Rhydypennau, wedi gwrthod ateb cwestiynau am ei fwriad ac nad oedd wedi ateb eu cais am wybodaeth am yr ymgyrch Ie yn lleol.

Mae cylchgrawn Golwg wedi ceisio cael gafael ar Paul Hinge i ofyn yn blwmp ac yn blaen iddo, gyda negeseuon ffôn ac e-bost, ond heb gael unrhyw ymateb.

“Mae’r distawrwydd yn llethol,” meddai Penri James, cyn-ymgeisydd Plaid Cymru am sedd seneddol Ceredigion a’r cyn-gynghorydd yn yr ardal.

Na yn 1997

Yn 1999, fe awgrymodd astudiaeth gan yr ysgolheigion Cymreig, Richard Wyn Jones a Dafydd Trystan, bod dau draean o gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi pleidleisio yn erbyn sefydlu’r Cynulliad yn refferendwm 1997.

Er hynny, mae Kirsty Williams yn mynnu y bydd mwyafrif cefnogwyr ei phlaid yn pleidleisio ‘Ie’.

“Dw i’n credu bod cwestiwn i’r ymgyrch ‘Ie’ o ran cael pobol mas i bleidleisio o gwbl,” meddai. “Ond does gen i ddim tystiolaeth bod cefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn llai brwdfrydig na chefnogwyr unrhyw blaid arall.”