Mae trydydd plentyn wedi marw o ganlyniad i’r tân fu mewn fflat ym Mhrestatyn nos Wener.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau wrth y BBC fod Charlie Timbrell, 15 mis oed, wedi marw yn Ysbyty Blant Alder Hey yn Lerpwl gyda’i deulu o’i amgylch.

Roedd Charlie yn fab i Lee-Annie Shiers a fu farw yn y tân, ynghyd â’i nai Bailey Allen (4 oed) a’i nith Skye (2 oed).

Mae tad Charlie a phartner Lee-Ann, Liam Timbrell, yn parhau i fod mewn cyflwr “difrifol iawn ond sefydlog” yn yr ysbyty.

Mae dyn 45 oed a dynes 42 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.