Dywed Plaid Cymru y byddan nhw’n defnyddio mwy ar yr enw Party of Wales mewn datganiadau Saesneg o hyn allan. Fel un o gyn-swyddogion y wasg i’r blaid, mae Huw Prys Jones wedi gweld y cyfan o’r blaen …

Ysgrifennu datganiad i’r wasg ynghylch penderfyniad Plaid Cymru i fabwysiadu enw dwyieithog oedd un o’m tasgau cyntaf pan ddechreuais weithio fel swyddog y wasg iddi yn 1998.

Mae’n debyg mai rhyw fath o arbrawf oedd yr enw dwyiethog ar y pryd. Er ei fod yn ymgais ddigon rhesymol i geisio ymestyn apêl, roedd yna rai cwestiynau amlwg o’r dechrau sut byddai’r enw Saesneg yn gweithio o safbwynt ymarferol.

Fodd bynnag, wnes i erioed ddychmygu graddau’r dryswch a achosodd y cam cymharol syml hwn o fewn rhengoedd Plaid Cymru.

Y tueddiad ar y dechau oedd defnyddio’r teitl dwyieithog llawn mewn datganiadau Saesneg. Un o’r rhesymau dros hynny oedd fod llawer o aelodau di-Gymraeg Plaid Cymru’n awyddus i ddal gafael ar y teitl Cymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Roedd hyn yn ddigon synhwyrol.

Ond, am resymau cwbl annealladwy, dechreuodd rhai o ffigurau’r Blaid yn defnyddio’r teitl dwyieithog yn y Gymraeg yn ogystal! Arwydd o annealltwriaeth lwyr o hanfodion dwyieithrwydd os bu un erioed.

Go brin fod ‘The Party of Wales’ wedi cydio i’r graddau y disgwylid. Ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd y teitl ei ollwng i bob pwrpas wrth i Blaid Cymru fabwysiadu’r brand ‘Plaid’. Unwaith eto, roedd hyn yn gweithio’n iawn yn y Saesneg (er na ddeallais erioed pa fantais sydd yna mewn gollwng yr enw ‘Cymru’). Dirgelwch llwyr eto ydi pam fod rhai ffigurau wedi mynnu cyfeirio ati fel ‘Plaid’ yn unig yn y Gymraeg yn ogystal, er nad ydi hyn yn gwneud unrhyw synnwyr.

Cynnig arall

Diddorol felly ydi gweld y Party of Wales yn cael cynnig arall.

Dw i’n amheus i ba raddau y bydd hyn yn fwy o lwyddiant y tro hwn na’r tro blaen.

I ddechrau, enw ydi enw, ac mae’r cyhoedd yn adnabod y blaid fel Plaid Cymru. Beth bynnag fyddai manteision posibl fersiwn Saesneg, mi ellir dadlau ei bod hi bellach 85 mlynedd yn rhy hwyr. Mae’n amheus hefyd i ba raddau y bydd pobl o’r tu allan i’r blaid yn defnyddio’r enw Saesneg.

Ond yn fwy difrifol, mae gen i ofn fod yr ymgais ddiweddaraf yn arwydd pellach o rhyw fath o ansicrwydd o fewn y Blaid ynghylch ei hunaniaeth, a’i hofnau parhaus ynghylch cael delwedd ‘rhy Gymraeg’.

Mae’n wir y byddai llai o gysylltiad ym meddyliau pobl rhwng Plaid Cymru a’r iaith Gymraeg yn beth da. Nid er mwyn Plaid Cymru, ond am ei fod yn anfanteisiol i’r Gymraeg gael ei chysylltu’n ormodol ag un blaid wleidyddol..

Ond yr hyn sy’n rhaid i Blaid Cymru ei gofio ydi na allan nhw ei chael hi’r ddwy ffordd.

Os ydyn nhw’n trio’n rhy galed i osgoi delwedd rhy Gymraeg wrth apelio at y di-Gymraeg ar y naill law, fedran ddim disgwyl medru hawlio cefnogaeth ddi-gwestiwn gan garedigion y Gymraeg ar y llaw arall. Pan mae ymgyrchwyr iaith yn edliw eu bod nhw’n cael mwy o gefnogaeth gan bleidiau eraill – fel yn achos cyfieithu’r cofnod yr wythhos ddiwethaf – all rhywun ddim peidio â sylwi ar ymateb digon hunan-gyfiawn gan Blaid Cymru. Does dim byd gwaeth i blaid wleidyddol na rhoi’r argraff ei bod yn cymryd cefnogaeth unrhyw garfan o bobl yn ganatiatol.

Dydw i ddim yn meddwl am funud fod agweddau deublyg o’r fath yn deillio o ddiffyg cefnogaeth i’r iaith. Yn wir, mae llawer o aelodau di-Gymraeg y Blaid ymysg y rhai sydd fwyaf pybyr eu cefnogaeth. Ond mae’n amlwg fod gan y Blaid ryw fath o paranoia bod y Gymraeg yn dieithrio pobl.

Fy amheuaeth i ydi bod pethau fel delwedd Gymraeg, (neu ddiffygion honedig mewn arweinwyr o ran hynny), yn cael eu defnyddio fel esgusodion rhy gyfleus dros fethiannau etholiadol. Mae priodoli diffyg apêl y Blaid i bethau fel hyn yn fwy derbyniol i’r aelodau na chydnabod nad oes ar bobl Cymru eisiau annibyniaeth. A hyd nes y bydd Plaid Cymru’n ymateb i’r gwir amlwg yma mewn ffordd ddeallus ac adeiladol, gwastraff amser fydd unrhyw dincro efo’i delwedd a’i brand.