John Griffiths
Fe gododd y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng yng Nghymru yn ôl ffigurau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y cynnydd yn 8% rhwng 2009 a 2010, meddai’r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, mewn datganiad ar bapur.

Mae hynny’n cymharu, meddai, â gostyngiad o 15% o’i gymharu â’r blynyddoedd sylfaen, rhwng 1990 ac 1995.

Y tywydd oer oedd yn cael y bai, gyda’r prif gynnydd mewn tai, busnesau a diwydiannau prosesu, ond roedd yna gynnydd hefyd mewn cynhyrchu haearn a dur.

Roedd y ffigurau’n dangos gostyngiad graddol ers yr 1990au, meddai’r Gweinidog,

‘Tasg i bawb’

O 2011 ymlaen, mae’r Llywodraeth yn anelu at dorri nwyon tŷ gwydr o 3% y flwyddyn ond, yn ôl John Griffiths, mae angen i bawb dynnu eu pwysau.

“Does dim modd cyrraedd ein targedau os na fydd pawb – llywodraeth ar bob lefel, pobol, cymunedau a busnesau – yn chwarae eu rhan,” meddai.