Louise Hughes
Mae aelod o blaid Llais Gwynedd wedi dweud y bydd hi’n sefyll yn erbyn yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn sedd Dwyfor Meirionydd yn Etholiadau’r Cynulliad.

Dywedodd Louise Hughes o Lanegryn wrth Golwg 360 nad oedd hi’n wleidydd ond “yn wraig tŷ ddig” a nad oedd pobol yr etholaeth yn cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd.

“Nid yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomos ydw i, dim ond Mrs. Hughes, y gwraig tŷ,” meddai’r mam i ddwy sy’n fwyaf enwog am ymgyrch i ddiogelu tai bach cyhoeddus y sir.

“Mae Plaid Cymru yn gwneud hwyl ar ben y ffaith fy mod i’n sefyll. Dydw i ddim yn pryderu beth maen nhw yn fy ngalw i.  Rydw i’n onest, yn urddasol ac angerddol.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n cael ein cynrychioli yn Dwyfor Meirionydd. Mae rhai gwleidyddion yn mynd yn rhan o’r sefydliad ac yn colli cysylltiad â phobol gyffredin.

“Dw i ddim yn wleidydd ond yn un o’r werin. Does neb yn barod i ddweud mai digon yw digon.

“Fe fydd cefn gwlad yn ddiffaith os nad ydym ni’n ofalus.”

‘Gwialen hud’

Y broblem fwyaf meddai yw bod pobol ifanc yn mynd i ddinasoedd mawr yn hytrach nag aros yn y sir.

“Rydyn ni angen buddsoddi yng nghefn gwlad Meirionydd. Nid ysgolion gwledig yw’r unig bwnc y mae Llais Gwynedd yn pryderu amdano,” meddai Louise Hughes.

“Mae gweld gwaith yn diflannu mewn cymunedau gwledig yn torri fy nghalon. Bydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn drychinebus os nad oes swyddi i gadw pobol yma.

“Mae pobol ifanc yn mynd i Lerpwl a dinasoedd eraill i chwilio am waith ac mae cymunedau gwledig yng Nghymru’n dlotach o ganlyniad i hynny,” meddai.

“Mewn 15 i 20 mlynedd fe fydd pethau yn llawer gwaeth. Dydw i ddim yn dweud fod gen i wialen hud – ond mae gen i’r gallu i edrych ar bethau mewn ffordd newydd.”