Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn Plaid Cymru yn sgil agwedd y blaid tuag at bolisi iaith Gymraeg y Cynulliad.

Wythnos ddiwethaf, fe bleidleisiodd mwyafrif Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn erbyn gwelliant i’r Bil Ieithoedd Swyddogol a fyddai wedi sicrhau bod y Cynulliad yn gweithredu’n gyson â’r dyletswyddau a’r safonau y bydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn disgwyl i gyrff eraill gydymffurfio â nhw.

Roedd yr ACau wedi pleidleisio yn erbyn cyhoeddi’r Cofnod o sesiynau llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg, er i’r Cynulliad weithredu’r polisi hwnnw hyd at 2009.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol heddychlon yn erbyn Plaid Cymru, ond mae gweithredu ar y penderfyniad wedi ei ohirio nes bydd ymateb gan y blaid.

‘Unioni’r cam’

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Galwn ar Aelodau Cynulliad Plaid Cymru i gymryd y cyfle i unioni’r cam a wnaed wythnos ddiwethaf drwy sicrhau y bydd Cynllun iaith y Cynulliad yn gweithredu statws cenedlaethol llawn i’r Gymraeg.

“Dyna’r ffordd i ddangos yr arweiniad clir ar statws yr iaith Gymraeg a democratiaeth ddwyieithog y dylai Plaid Cymru fod wedi ei ddangos yn ystod y bleidlais ar y Bil Ieithoedd Swyddogol. Mae canlyniad y bleidlais honno yn peryglu un o brif gonglfeini Mesur Iaith y Gymraeg 2011 – sef bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru.”

‘Siom ac anghrediniaeth’

Ychwanegodd Sioned Haf, Is-Gadeirydd y Gymdeithas:  “Rydyn ni wedi cymryd y penderfyniad yma i ddangos difrifoldeb ein siom a’n hanghrediniaeth bod Plaid Cymru wedi cefnu ar un o’i phrif egwyddorion; sef sicrhau cydraddoldeb i’r iaith Gymraeg.

“Rydym wedi’n siomi’n ddirfawr na wnaeth Plaid Cymru gymryd y cyfle hwn i  sicrhau bod ein prif gorff democrataidd yn rhoi neges glir mai ystyr statws swyddogol yw defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd gyda’i gilydd.

“Rydym yn pryderu’n  fawr am safon ac ansawdd y drafodaeth a gafwyd ar y Bil. Ac mae’r diffyg asgwrn cefn a ddangosodd Plaid Cymru ar y mater hwn yn codi cwestiwn am allu’r blaid  i ymateb i’r her sylweddol sy’n wynebu’r Gymraeg yn ein cymunedau. Her a ddaw hyd yn oed yn gliriach pan gyhoeddir canlyniadau’r Cyfrifiad.”

Ymateb Plaid

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae Plaid Cymru yn credu y dylai sefydliadau sydd yn ceisio annog defnydd yr iaith Gymraeg geisio uno yn eu cefnogaeth o’r iaith, yn hytrach na cheisio tanseilio ei gilydd.”