Y ty lle'r oedd Mark Bridger yn byw, Ceinws
Byddwn yn postio’r newyddion diweddaraf am yr ymdrechion i ddarganfod April Jones isod.

Rhidian Jones sy’n dilyn y datblygiadau ar ran Golwg360.

19.40 – Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi sefydlu cronfa apêl ar gyfer April Jones.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Williams wrth Sky News eu bod wedi sefydlu’r apêl o ganlyniad i nifer o geisiadau gan bobl ar draws y DU.

Fe fydd y cyngor yn gofalu am y gronfa ac yn derbyn rhoddion, cyn penderfynu gyda theulu April ar y ffordd orau i ddefnyddio’r arian.

Dywed y cyngor y dylid gwneud sieciau yn daliadwy i – MTC-April’s Fund, Y Plas,  Heol Aberystwyth, Machynlleth, Powys, SY20 8ER.

19.00 – Yn y gynhadledd i’r wasg wleb iawn dywedodd yr Uwcharolygydd Ian John fod dros 100 o arbenigwyr yn chwilio am April, ynghyd a nifer o wirfoddolwyr. Yn ardal Pantperthog brynhawn yma roedd sawl tim achub mynydd yn chwilio glan y Dulas ac roedd cwn arogli hefyd yn chwilio. Roedd y chwilio yn yr ardal fach honno yn cael ei gydlynu o gerbyd tim achub Ogwen, a Carys Pugh, sy’n byw gerllaw, yn darparu te a chacennau i’r dynion.

Mae Pantperthog tua milltir i’r de o Geinws, ac roedd un o’r hewlydd i Geinws ar gau tra bod yr heddlu’n chwilio’r ardal a thy yr oedd Mark Bridger wedi bod yn byw ynddo yn ddiweddar.

Mae’r ganolfan hamdden bellach yn ganolfan reoli a dim ond aelodau o’r gwasanaethau brys sy’n cael mynd yno, yn wahanol iawn i Ddydd Mawrth pan oedd y lle yn fwrlwm wrth i gannoedd o drigolion Machynlleth fynd yno er mwyn cynnig eu help. Cafodd cynhadledd y wasg ei chynnal allan yn y glaw trwm, nad oedd wrth fodd pawb.

“Mae canolfan gynadledda’r Plas fan yna, a neuadd chwaraeon fawr mewn fan yna – pam y’n ni mas yn y glaw?,” meddai un gohebydd anniddig.

17.30 – Yn y gynhadledd newyddion dywed yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn 2,500 o alwadau gan y cyhoedd ers eu hapel am wybodaeth. Mae’r heddlu’n ceisio dadansoddi’r wybodaeth sydd wedi dod i law. Roedd na ddiolch hefyd i’r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad. Mae 400 o wirfoddolwyr wedi cynnig helpu heddiw ac mae’r heddlu wedi bod yn cymryd manylion ganddyn nhw ynglyn a lle mae nhw’n byw a pha ardaloedd mae nhw’n eu hadnabod yn dda.

17:20 – Wedi bod i stad Bryn-y-Gog. Mae’r rhan o’r stryd ble cafodd April ei chipio wedi cael ei chau a heddwas yn gadael cymdogion yn unig fynd i mewn. Roedd plismones hefyd yn goruchwylio cartref April.

Mae cynhadledd i’r wasg ymhen 15 munud gyda’r uwcharolygydd Ian John, yn y ganolfan hamdden ym Machynlleth.

17.00 – Mae aelodau o dimoedd achub mynydd yn chwilio’n fanwl ar lan yr afon Ddyfi, a’r afon Ddulas sy’n llifo heibio Ceinws i’r Ddyfi. Dywedodd aelod o dim achub Gogledd Ddwyrain Cymru fod e’n waith anodd a bod llif grymus yr afon yn ei gwneud hi’n beryglus.

Roedd tim achub Dyffryn Ogwen yn rhan o’r chwilio ac roedden nhw’n defnyddio hen ysgol Pantperthog fel man ymgynnull.

16.50 – Mae chwaer April, Jasmine, 16, wedi dweud wrth Sky News: “Ry’n ni jyst eisiau i’n tywysoges brydferth ddod adre rŵan. Mae hi wedi bod yn rhy hir. Mae gwybod bod rhywun yn gwybod rhywbeth ond yn gwrthod dweud yn gwneud i mi deimlo’n waeth.”

15.15 – Wedi bod allan gyda thri o bobol oedd yn chwilio am April yn ardal Llanbrynmair. Awgrymodd ffermwr lleol fod y criw yn chwilio mewn hen garafan wrth ochr yr afon Twymyn, ond nid oedd ol bod unrhyw un wedi bod yno ers tro.

Un a fu’n chwilio yn ardal Tafolwen yw Ricky Jones, sy’n rheoli stad o bedair fferm. Dywedodd fod Mark Bridger wedi bod yn byw ym mhentref Llanbrynmair a’i fod yn gyfarwydd gyda’r ardal. Dywedodd fod llawer yn yr ardal wedi bod yn chwilio yn annibynnol wrth ei gilydd a bod peryg i bobol fynd ar draws ei gilydd.

Mae cynhadledd newyddion yng nghanolfan hamdden Machynlleth yn hwyrach brynhawn yma ble mae disgwyl i’r heddlu roi’r manylion diweddaraf am y chwilio.

13.03 – Dwyshau mae’r chwilio am April wrth i’r heddlu archwilio ty Mark Bridger ym mhentref Ceinws, sy’n cael ei rhentu, a’r adeiladau gerllaw.

12.45 – Dywedodd Alyson Jones o siop Losin Lush fod April a’i theulu yn gwsmeriaid a’i bod hi’n ferch “bert, ddiniwed, hyfryd.”

Alison Jones“Magais i fy mhlant i ar stad Bryn-y-Gog a dyma’r peth olaf baswn i wedi ei ddisgwyl,” meddai. Roedd ganddi ruban fawr ar y drws ac mae hi’n dosbarthu rhubanau bach ar y cownter.

12.00 – Mae llai o fwrlwm yn y ganolfan hamdden prynhaw ma gan fod y rhan fwyaf o wirfoddolwyr allan yn chwilio am April – yn llefydd fel Llanbrynmair, Ceinws, a llawr y dyffryn. Mae nifer o dimau achub mynydd wedi ymgynnull yn y ganolfan hamdden ar gyfer eu cinio ar ol bore o chwilio. Mae cerbydau achub mynydd De Eryri yma, Gorllewin y Bannau, a thimoedd o’r llu awyr.

Mae yna rai pobol yn gwisgo rhuban pinc i gofio am April, ac roedd un siop yn cyhwfan dau ruban wrth y drws. Mae presenoldeb y wasg yn dal yn amlwg iawn ym Machynlleth ac amryw o ddynion camera yn crwydro’r strydoedd, a cheir yr heddlu yn gwibio heibio. Ond mae’r teimlad o frys ac argyfwng yn llai heddiw nag oedd hi ddydd Mawrth, ar ddiwrnod cyntaf y chwilio.

11.18 – Mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw gerbyd arall mewn perthynas a’r ymchwiliad ond nad yw’r “darlun llawn” ganddyn nhw ar hyn o bryd.

11:12 – Mae David Cameron wedi ymateb i ddiflaniad April Jones gan ddweud ei fod yn cydymdeimlo’n ddwys a’i theulu.

“Dyma hunllef waethaf pob teulu, ac mae’r ffaith ei bod yn dioddef o barlys yr ymennydd, rhywbeth rwy’n gwybod ychydig amdano gan fy mhlant fy hun, yn gwneud pethau’n waeth,” meddai’r Prif Weinidog.

“Fy apêl  yw i bawb, os ydych chi’n gwybod unrhyw beth, neu wedi gweld unrhyw beth, clywed unrhyw beth, neu â syniadau y gallech chi gyflwyno, i siarad â’r heddlu a helpu’r teulu yma i ddod o hyd i’w plentyn hyfryd.”

Rhubanau pinc tu allan i gartref April Jones

11.05 – Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n apelio am ragor o wirfoddolwyr i’w helpu ar hyn o bryd ac mae nhw’n gofyn i bobl eu ffonio yn hytrach na dod lawr i’r Ganolfan Hamdden ym Machynlleth.

11.00 – Mae’r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i holi Mark Bridger. Fe fydd y cyfnod hwnnw yn dod i ben am 5yh yfory. Yn y cyfamser mae’r chwilio’n parhau ac mae’r heddlu wedi apelio unwaith eto am help i geisio darganfod symudiadau Mark Bridger rhwng 6.30yh nos Lun a  3.30yh ddydd Mawrth a’r Land Rover Discovery glas roedd yn ei yrru – L503 MEP. Mae nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw un sydd wedi cysylltu ag o un ai ar y ffon, drwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, neges destun, neu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod yma.

10.58 – Cynhadledd newyddion ar fin dechrau yn Aberystwyth lle bydd yr heddlu yn rhoi’r diweddaraf am y chwilio am April Jones.

09.15 – Mae mam April, Coral Jones, wedi apelio ar bobl i wisgo rhuban pinc i ddangos eu cefnogaeth i’w merch, gan fod pinc yn un o’i hoff liwiau.

08.14 – Mae nifer o ffermwyr a phobl leol wedi dechrau cyrraedd y ganolfan hamdden ym Machynlleth yn dilyn apel gan yr heddlu yn gynharach bore ma. Mae nhw’n awyddus i bobl sy’n adnabod yr ardal yn dda i chwilio siediau, tai haf ac adeiladau sydd ddim yn cael eu defnyddio’n aml i weld a oes unrhyw beth o’i le. Mae’r heddlu’n galw ar bobl i ddod i’r Ganolfan Hamdden yn y dref cyn 9.30yb i gael cyfarwyddiadau ynglyn a’r chwilio.

Hydref 4 – 0.700: Mae na apel ar  bobl leol sy’n byw o fewn 10-15 milltir i Fachynlleth i ddod i’r Ganolfan yn y dref erbyn 8 bore ma er mwyn helpu gyda’r chwilio. Mae’r heddlu’n awyddus i ffermwyr sy’n adnabod eu hardaloedd yn dda i wirfoddoli i helpu gyda’r chwilio mewn 32 o bentrefi. Mae angen mynd draw i’r ganolfan erbyn 8yb er mwyn cael gwybodaeth ynglyn a sut i fynd ati i chwilio. Mae’r heddlu’n edrych ar 20 safle ar hyn o bryd a neithiwr cafodd yr heddlu  12 awr ychwanegol i holi Mark Bridger. Fe fydd y gynhadledd newyddion nesaf am 11 bore ma onibai bod na ddatblygiadau yn y cyfamser.

21.52 – Mae’r heddlu wedi cael 12 awr ychwanegol i holi Mark Bridger ynglyn a diflaniad April Jones. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud cais i farnwr bore fory os am gael rhagor o amser. Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau adroddiadau mewn papur newydd bod April yn dioddef o barlys yr ymennydd.  Yn ol mam fedydd April mae’n rhaid iddi gymryd moddion bob dydd neu fe fydd mewn poen.

21.30 – Dywed Heddlu Dyfed Powys bod y chwilio am April Jones wedi dwyshau a bellach ar raddfa “na welwyd ei debyg o’r blaen.”  Ond mae nhw’n dweud bod y llefydd lle mae’r chwilio’n parhau yn “heriol” o ganlyniad i’r tywydd gwlyb ac mae’r afon wedi gorlifo’i glannau. Mae’n anhebyg y bydd na gynhadledd newyddion arall heno ac y bydd y diweddariad nesaf am 11 bore fory, onibai bod datblygiadau yn y cyfamser.

Mark Bridger

18.07 – Mewn ymateb i gwestiwn o’r llawr am berthynas Mark Bridger gyda theulu April Jones, dywedodd Reg Bevan fod yr heddlu yn edrych ar holl garwriaethau a pherthnasau Mark Bridger yn ardal Machynlleth ond nad oedd am wneud sylw ar unrhyw si penodol. Dywedodd un o drigolion pentref Ceinws wrth Golwg360 fod llawer o weithgaredd gan yr heddlu yn yr ardal ond nad oedd yn ymwybodol o unrhyw adeiladau penodol sy’n cael eu harchwilio.

17.49 – Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i “gefndir” Mark Bridger er mwyn creu proffil ohono.

17.33 – Yn y gynhadledd newyddion dywed yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn dros 400 o negeseuon ers yr apel diwethaf ac yn ceisio blaenoriaethu’r wybodaeth sydd wedi dod i law i’w helpu yn eu hymchwiliad. Mae’r heddlu wedi dechrau chwilio 20 o safleoedd ym Mhowys ac mae’r ymgyrch wedi dwyshau heno, medd yr heddlu. Mae 100 o wirfoddolwyr timau achub mynydd wedi ymuno yn y chwilio, ynghyd a 100 o blismyn, a thri o arbenigwyr blaenllaw yn y DU sy’n arbenigo mewn chwilio am bobl sydd ar goll.

17.15 – fe fydd gwylnos arall yn cael ei chynnal heno yn Eglwys Sant Pedr ym Machynlleth. Fe fydd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John yn cymryd rhan yn yr wylnos. Dywedodd wrth BBC Radio Cymru prynhawn ma bod pobl yn “teimlo siom ond yn dal eisiau gwneud rhywbeth i helpu”. Y peth pwysicaf ar hyn o bryd meddai, yw rhoi cysur i bobl.

16.30 – Yr heddlu’n cyhoeddi y bydd na gynhadledd newyddion prynhawn ma am 17.30 yn Aberystwyth lle byddan nhw’n rhoi’r manylion diweddara am yr ymdrech i chwilio am April Jones.

15.48 – Mae teledu Sky yn adrodd fod yr heddlu yn archwilio ffermdy gwag tua dwy filltir o’r afon Ddyfi.

13.56 – Adroddiadau yn lleol fod April Jones wedi cael lifft yng nghar Mark Bridger dau ddiwrnod cyn iddi fynd ar goll, a’i bod hi’n ffrindiau gyda dau o blant Mark Bridger.

12.33: Dywedodd yr Uwcharolygydd Reg Bevan fod 50 o wirfoddolwyr yn helpu timau achub mynydd a bod yr heddlu yn gwerthfawrogi eu help. Apeliodd ar y cyhoedd i gysylltu gydag unrhyw wybodaeth a allai fod o help wrth ddod o hyd i April. Dywedodd y byddan nhw’n gwerthfawrogi pob manylyn o wybodaeth, waeth pa mor ddibwys mae’n ymddangos.

12.30: Ple emosiynol gan fam April, Coral Jones: “Mae hi wedi bod yn 36 awr ers i April ddiflannu.. rydyn ni’n despret. Dim ond pump oed yw hi. Plis plis helpwch ni i ddod o hyd iddi. ”

12.21 Mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, wedi dweud ei bod hi’n sefyllfa o dyndra a gwewyr meddwl wrth i bobol ym Machynlleth, a thu hwnt, ofidio am yr hyn bydd yr heddlu yn ei ddarganfod.

12.16: Mae disgwyl i fam April, Coral Jones, a llys-dadcu April, Dai Smith, apelio am wybodaeth mewn cynhadledd i’r wasg oddeutu 12.30.

12.06: Mae Gwylwyr y Glannau wedi anfon pedwar caiacwr er mwyn chwilio’r afon Ddyfi a’r aber.

11.42: Pwy yw Mark Bridger? Mae’n anarferol i’r heddlu enwi a rhyddhau llun o ddyn sydd heb gael ei gyhuddo. Cyn-filwr o Surrey yn Lloegr yw Mark Bridger, 46, sydd wedi bod yn byw yn ardal Machynlleth ers iddo briodi merch leol yn 1990 medd papur y Telegraph. Gwahanodd y ddau ond parhaodd Mark Bridger i fyw ym Machynlleth, gan weithio mewn swyddi llafuriol yn yr ardal a threulio cyfnodau yn ddi-waith. Daeth yr heddlu o hyd i’w Land Rover, sydd ag olwyn yrru ar yr ochr chwith, mewn garej yn ardal Hen Heol yr Orsaf ym Machynlleth. Cafodd Mark Bridger ei arestio ddoe tra’n cerdded i’r gogledd o bont y Ddyfi ac mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd am ei leoliad rhwng 7.00 nos Lun a 3.30 brynhawn Mawrth.

11.36: Mae aelodau o deulu April Jones yn mynd i apelio am wybodaeth mewn cynhadledd i’r wasg am 12.30.

11.30: Mae adroddiadau fod yr heddlu’n defnyddio cychod er mwyn archwilio aber yr afon Ddyfi.

Dywedodd un swyddog o Network Rail ei fod ef a’i gydweithwyr wedi cymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith ond wedi treulio sawl awr yn y ganolfan hamdden yn disgwyl am gyfarwyddyd. “Dydyn nhw ddim yn gyfarwydd gyda’r sefyllfa yma, diolch byth, ac oherwydd hynna does neb yn arwain,” meddai’r dyn.

16:00: Cyhoeddi y bydd na gynhadledd newyddion o fewn rhyw hanner awr – mae disgwyl i rieni April Jones fod yno.

10.50: Dywedodd yr Uwcharolygydd Reg Bevan fod Mark Bridger wedi cael ei arestio ddoe am 3.30yp tra’n cerdded ar yr A487 i’r gogledd o bont y Ddyfi. Roedd yn gwisgo trowsus a siaced werdd, cuddliw, a chot law ddu. Apeliodd am wybodaeth gan y cyhoedd am leoliad Mark Bridger rhwng 7 nos Lun a 3.30 brynhawn Mawrth.

Landrover Mark Bridger

10.33: Y gynhadledd newydd ddechrau. Heddlu’n dweud eu bod yn dal i holi Mark Bridger ac mae nhw wedi rhyddhau llun o’i gerbyd Land Rover Discovery – L503 MEP. Mae nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y car rhwng 7yh nos Lun a 3.30pm prynhawn dydd Mawrth. Cafodd ei gar ei ddarganfod mewn garej ym Machynlleth ddoe. Mae’r heddlu wedi apelio ar y cyhoedd am unrhyw fanylion a all eu helpu gyda’u hymchwiliad. Mae disgwyl cynhadledd arall am 12.

10.00: Mae disgwyl cynhadledd newyddion o fewn y munudau nesaf. Roedd yr heddlu wedi bwriadu cynnal cynhadledd am 1pm ond mae’n ymddangos bod datblygiadau wedi bod.

7.45: Yr heddlu’n cadarnhau y bydd mwy o swyddogion yn chwilio am April heddiw ond roedden nhw’n gwrthod cadarnhau a oedden nhw’n chwilio trwy adeiladau ym Machynlleth nac a oedden nhw’n amau fod rhywun arall yn rhan o’r digwyddiad.

7.40: Yr heddlu’n gofyn i wirfoddolwyr beidio â dod i chwilio heddiw – yn rhannol oherwydd diogelwch a rhag mynd ar draws gwaith y swyddogion proffesiynol. “Mae’n ardal wledig iawn,” meddai’r Uwcharolygydd Ian John. “Mae’r amgylchiadau’n heriol ac afon Ddyfi’n uchel. Mae angen gofalu am ddiogelwch pobol. “Mae gyda ni enwau a chyfeiriadau ac os bydd angen help eto, gallwn ofyn am hynny. Dydyn ni ddim eisiau wirfoddolwyr brwd ac ewyllysgar dynnu sylw swyddogion cymwys.”

7.35: Cynhadledd i’r wasg. Yr heddlu’n dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i April. Ond roedd 40 o swyddogion profiadol o Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a thimau Achub Mynydd Aberdyfi ac Aberhonddu wedi bod yn chwilio trwy’r nos. Yr heddlu’n canolbwyntio ar rai mannau arbennig yn ardal Machynlleth, gan ddibynnu i raddau helaeth ar wybodaeth gan y dyn sy’n cael ei holi.

Hydref 3 – 7.30: Yr heddlu’n apelio ar bobol i beidio dod i Ganolfan Hamdden Machynlleth tan 9.00 y bore.

21.45: Mewn cynhadledd newyddion heno mae teulu April Jones wedi apelio ar y person sydd wedi ei chipio i’w dychwelyd adref yn ddiogel gan ddweud bod eu bywydau yn “deilchion ac wedi stopio”. Mae’r heddlu’n dal i holi un person ac yn annog y gwirfoddolwyr i orffwys heno. Mae timau achub mynydd ac ymchwilwyr arbenigol wedi ymuno yn y chwilio am April. Fe fydd y gynhadledd newyddion nesaf am 7.30yb fory.

21.00: Yn ol Sky News y dyn sy’n cael ei holi yw Mark Bridger, 46, o Fachynlleth.  Roedd disgwyl i rieni April Jones – Coral, 40, a Paul, 43 – wneud apel mewn cynhadledd i’r wasg prynhawn ma ond mae’n debyg eu bod nhw wedi penderfynu peidio ar ol i fanylion am y datblygiadau diweddara ddod i’r fei.

19.00:Mae’r heddlu wedi cynnal cynhadledd newyddion arall heno ac wedi diolch i’r gwirfoddolwyr am eu cymorth. Ond maen nhw bellach wedi gofyn i bobol roi’r gorau i chwilio am April gan y gall amharu ar yr offer arbenigol sy’n cael ei ddefnyddio i chwilio amdani. Mae gwylwyr y glannau o Borth, Aberystwyth ac Aberdyfi yn helpu gyda’r chwilio ger Afon Dyfi.

18.20: Mae’n debyg bod teulu April Jones yn adnabod y dyn a gafodd ei arestio heddiw ond nad ydy o’n perthyn i’r teulu. Fe fyddai hynny’n esbonio pam bod April wedi mynd i mewn i’r fan o’i gwirfodd, meddai’r heddlu. Mae archwiliad fforensig yn cael ei gynnal ar gerbyd y dyn ar hyn o bryd. Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd bod yna gysylltiad rhwng yr achos ac ymgais i gipio plentyn yn ardal Aberystwyth wythnos yn ôl.  Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi bod yn monitro symudiadau troseddwyr rhyw cofrestredig sy’n byw yn yr ardal.

18.10: Am y tro cyntaf heddiw mae’r neuadd chwaraeon yn y ganolfan hamdden yn wag wrth i’r gwirfoddolwyr i gyd gael eu hanfon allan i chwilio am April Jones. Ond mae ‘r lle’n berwi o ohebwyr a chyflwynwyr newyddion – Alastair Stewart, Kay Burley, Jamie Owen, ac yn y blaen. Mae’n amlwg o edrych ar fynedfa’r ganolfan hamdden fod sylw’r wlad ar Fachynlleth heddiw. Mae’n wyntog yma ac mae cawodydd cyson felly nid yw hi’n dywydd ffafriol i’r rheiny sy’n chwilio. Buodd hofrennydd yr heddlu yn hedfan am tua ugain munud uwchben yr afon Ddyfi cyn glanio yn ol ar y cae rygbi 5 munud yn ol.

17.55: Dywedodd Maer Machynlleth fod y gymuned “mewn sioc” a bod pawb yn meddwl am y teulu. “Mae’r gymuned yn ddigon cryf i ddod dros hwn a dwi’n falch iawn fod  cymaint wedi dod yma, o bob oedran, er mwyn rhoi help llaw i’r chwilio.” Daeth Pete Taylor yr holl ffordd o’r Amwythig er mwyn helpu gyda’r chwilio. ”Bues i’n byw yma am 26 mlynedd a dwi’n nabod teulu April yn dda iawn. Clywais i’r newydd ar Facebook neithiwr a des i yma peth cyntaf bore ma.  Dwi wedi bod allan rhyw dair neu bedair gwaith yn chwilio amdani. Mae ymateb cymuned Machynlleth yn ddim llai nag oeddwn i’n disgwyl.”

17.30: Mae rhan helaeth o ffordd yr A487 o Fachynlleth i gyfeiriad y gogledd wedi cael ei chau i’r ddau gyfeiriad fel rhan o ymchwiliad yr heddlu. Mae’n debyg bod y dyn, sy’n byw’n lleol,  yn cerdded ar hyd y ffordd pan gafodd ei arestio. Mae ei gerbyd wedi cael ei ddarganfod gerllaw. Ond mae’r heddlu dal i chwilio am April ac yn parhau i apelio am wybodaeth.

Gorsaf yr heddlu, Aberysywyth

16.50:Roedd criw o tua 50 o bobol yn gwylio’r gynhadledd i’r wasg o Aberystwyth ar deledu caffi’r ganolfan hamdden, ac ebychodd ambell un pan gyhoeddodd y Ditectif Uwcharolygydd Reg Bevan fod dyn lleol 46 oed wedi cael ei arestio. Mae’r dyn yn y ddalfa yn Aberystwyth. Mae gofid pawb yn amlwg iawn ac mae na deimlad o fod yn ddiymadferth ymhlith y cannoedd o bobol sydd dal yma yn y ganolfan hamdden.

16.30: Mae swn yr hofrennydd yn gyson ac mae’r wasg a chamerau teledu o bob rhwydwaith yn amlwg yma. Mae cynhadledd newyddion ar fin digwydd.

16:20: Sgwrs fideo â dau fu’n chwilio – David a Noel o gwmni Carillion: http://youtu.be/oE_hnsN1FbQ

16:10: Mae gweithgaredd mawr yma ym Machynlleth wrth i gannoedd ymgynnull yn y ganolfan hamdden er mwyn gwirfoddoli i chwilio. Mae na deimlad o rwystredigaeth hefyd am fod pobol yn ysu am fynd allan ond y drefn ddim yno er mwyn ymdopi gyda’r holl wirfoddolwyr.