Mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud fod pasio Bil Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad heddiw yn ddigwyddiad “hanesyddol yn hanes datganoli a hanes Cymru.”

Mae’r Bil yn nodi fod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y Cynulliad ac y dylid eu trin yn gyfartal, ond ni fydd y Cofnod yn hollol ddwyieithog ar ôl i welliant gan Suzy Davies o blaid cael cofnod Cymraeg o drafodaethau pwyllgorau gael ei wrthod.

Cafodd gwelliant gan Aled Roberts yn galw am gyhoeddi cofnod Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd hefyd ei wrthod. Dywedodd Aled Roberts y byddai gwrthod y gwelliant yn “tanseilio dwyieithrwydd yng Nghymru” ond pleidleisiodd 42 yn erbyn y gwelliant, a dim ond 12 o blaid.

Bydd y Cofnod o drafodaethau’r siambr ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda fersiwn Gymraeg o fewn pum niwrnod, er bod yr union amseriad yn aneglur ar hyn o bryd.

Dafydd El: ‘Llawenydd nid gorfodaeth’

Wrth gefnogi’r Bil dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod angen i “ddwyieithrwydd fod yn fater o lawenydd ac nid yn fater o orfodaeth.”

“Mae angen dwyieithrwydd egwyddorol ond rhesymol ymarferol,” meddai AC Dwyfor Meirionnydd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, sef y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a’r Bil Ieithoedd, fod y Cynulliad heddiw wedi “pleidleisio’n gryf iawn o blaid yr egwyddor o ddefnyddio’r ddwy iaith” a bod “rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond ymarferol.”

“Bydd ein Cynllun yn arddangos ffordd arloesol ac ymarferol o ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a bydd yn ehangu ar y gwasanaethau rhagorol rydym eisoes yn eu darparu,” meddai AC Dwyrain Caerfyrddin.

‘Siom’ Cymdeithas yr Iaith

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau i’r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Bil wedi ei basio yn y cyfnod hwn yn ei daith ddeddfwriaethol, a’r ffaith bod sicrwydd y bydd Cofnod Cymraeg o sesiynau llawn ar gael i’r cyhoedd.

“Fodd bynnag, mae rhaid i ni fynegi siom na wnaeth aelodau o wahanol bleidiau gefnogi prif welliannau Aled Roberts a Suzy Davies a fyddai wedi sicrhau dwyieithrwydd yn y Cynulliad.

“Mae gennym bryder hefyd am safon y drafodaeth; mae cwestiynau wedi cael eu codi am wiredd rhai o’r datganiadau a wnaed yn y ddadl. Mae’n debyg y gallai rhai datganiadau fod wedi camarwain aelodau a dylanwadu ar y pleidleisiau yn y siambr. Byddwn ni’n ystyried pa gamau y dylen ni gymryd ynghylch hyn maes o law.”

‘Ymrwymiad’

Dywedodd Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, fod y Bil yn “gosod dyletswydd statudol i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth i’r Comisiwn ddarparu gwasanaethau i’r Cynulliad ac i’r cyhoedd.”

“Bellach, ni ellir amau ein hymrwymiad i’r Gymraeg,” meddai Rosemary Butler.