April Jones
Dydd Llun Hydref 1

7 y nos – Roedd April Jones yn chwarae gyda ffrindiau ar stryd Bryn-y-Gôg ym Machynlleth pan aeth ar goll.

10.30 y nos – Heddlu Dyfed Powys yn rhyddhau datganiad yn dweud bod merch bum mlwydd oed ar goll.

Lledaenodd y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol ac aeth pobol leol allan i chwilio amdani.

Dydd Mawrth Hydref 2

8.30 y bore – Heddlu Dyfed Powys yn rhyddhau mwy o wybodaeth am ddiflaniad April. Roedd hi’n gwisgo cot borffor, a chrys polo gwyn a thrywsus du ac yn ôl y tystion ifanc aeth hi mewn i fan neu gerbyd 4×4 lliw golau.

Dechreuodd gwirfoddolwyr ymgynnull yng nghanolfan hamdden Bro Ddyfi er mwyn ymuno yn y chwilio am April. Cafodd nifer o weithwyr amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn chwilio amdani a bu pobol leol yn dosbarthu taflenni a phosteri yn apelio am wybodaeth amdani.

12 y prynhawn – Mewn cynhadledd i’r wasg disgrifiodd yr Uwch-arolygydd Reg Bevan y diflaniad fel “hunllef waethaf pob rhiant.”

Dywedodd fod y broses o gael gwybodaeth gan y tystion ifanc yn un araf ond eu bod nhw’n deall bod April wedi mynd i mewn i’r cerbyd o’i gwirfodd ac ar yr ochr dde, sef ochr y gyrrwr oni bai mai cerbyd gydag olwyn ochr chwith ydoedd.

Dywedodd fod yr heddlu’n canolbwyntio’r chwilio ar ardal Machynlleth ac yn ehangu’r rhwyd oddi yno.

1 y prynhawn – diflaniad April Jones oedd y prif bwnc trafod ar Twitter a dechreuodd gwasanaethau newyddion gyrraedd Machynlleth o Brydain benbaladr. Roedd y ganolfan hamdden yn llawn gwirfoddolwyr ac yn berwi o ohebwyr a chyflwynwyr newyddion.

4.30 y prynhawn – Yr heddlu’n cyhoeddi fod dyn lleol 46 oed wedi cael ei arestio a’i fod yn y ddalfa yn Aberystwyth. Apeliodd yr heddlu unwaith eto am wybodaeth am leoliad April Jones.

Cafodd yr A487 i’r gogledd o Fachynlleth ei chau ar ôl i’r dyn 46 oed gael ei arestio tra’n cerdded ar droed ar yr heol i’r gogledd o bont y Ddyfi.

6 y nos – Cafodd gwylnos ei chynnal yn eglwys San Pedr ym Machynlleth i weddïo dros April.

Roedd hofrenyddion yr heddlu yn hedfan yn gyson ac yn canolbwyntio ar yr afon Ddyfi.

7.45 y nos – Yn ôl ffynonellau lleol y dyn oedd yn y ddalfa oedd Mark Bridger. Roedd yn ymddangos ei fod yn adnabod teulu April Jones.

Dydd Mercher, Hydref 3

7.30 y bore – Yr heddlu’n dweud nad oedden nhw wedi dod o hyd i April dros nos, ac yn gofyn i wirfoddolwyr beidio â mynd i chwilio oherwydd diogelwch a rhag mynd ar draws gwaith y swyddogion proffesiynol.

10.30 y bore – Yr heddlu’n cymryd y cam anarferol o ryddhau llun o Mark Bridger ac yn cadarnhau ei enw er mwyn “rhoi diwedd ar y damcaniaethu.”

Yr heddlu’n rhyddhau llun o’i gerbyd Land Rover Discovery a gafodd ei ddarganfod mewn garej ym Machynlleth.

12 y prynhawn: Gwylwyr y Glannau yn anfon pedwar caiacwr er mwyn chwilio’r afon Ddyfi a’r aber.

12.30 y prynhawn: Ple emosiynol gan fam April, Coral Jones:

“Mae hi wedi bod yn 36 awr ers i April ddiflannu. Rydyn ni’n despret. Dim ond pump oed yw hi. Plis plîs helpwch ni i ddod o hyd iddi. ”