Mae pobol Cymru yn fodlon iawn gyda meddygfeydd ac ysgolion, ond yn gofidio am eu sefyllfa ariannol eu hunain yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Roedd 91% o rieni’n fodlon ar ysgol gynradd eu plant, ac 88 % yn fodlon ar ysgol uwchradd eu plant, er gwaethaf pryderon am safon addysg a chymhwysterau yng Nghymru.

Roedd 92% yn fodlon ar y gwasanaeth gaethon nhw gan eu meddyg teulu y tro diwethaf iddyn nhw orfod ymweld.

Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 3,500 o bobol a dywed llefarydd ar ran y Llywodraeth ei bod hi’n “dda gwybod bod y canlyniadau’n dangos bod pobol yn fodlon iawn ar wasanaethau meddygon teulu ac ysgolion.”

Nid oedd pobol mor fodlon ar eu sefyllfa ariannol, a dywedodd 52% o bobol eu bod nhw’n cael o leiaf rhywfaint o drafferth wrth dalu biliau, sy’n 7 pwynt canran yn uwch na’r ffigwr yn 2009/10.

Rhoddodd pobol sgôr o 6.5 i Wasanaeth Iechyd Cymru, a 6.5 hefyd i addysg yng Nghymru, ond dim ond sgôr o 5.8 i’r corff sy’n rheoli’r meysydd hynny, sef Llywodraeth Cymru.