Leanne Wood - 'cywilydd'
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi condemnio’r llefarydd Llafur, Peter Hain, am ddefnyddio tactegau tebyg i’r BNP.

Roedd datganiad dros y Sul gan gyn Ysgrifennydd Cymru yn “anghyfrifol”, meddai Leanne Wood, un o ACau Canol De Cymru.

Mewn araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno, roedd Peter Hain wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn “wrth-Seisnig” ond, yn ôl Leanne Wood, roedd hynny’n creu tyndra hiliol.

“Rwy’n gofidio’n fawr am y math o iaith y mae Peter Hain yn ymddangos yn gyffyrddus yn ei defnyddio,” meddai wrth Golwg 360.

“Nid yn unig fod defnyddio termau fel gwrth-Seisnig yn groes i’r gwir ond maen nhw hefyd yn awgrymu fod Peter Hain a’r Blaid Lafur yn fodlon annog tensiynau hil mewn ffordd y byddech yn ei gysylltu fel arfer gyda’r BNP neu’r English Defence League er mwyn ennill pleidleisiau’n rhad.

“Mae hyn yn anghyfrifol ac fe ddylsai Peter Hain wybod yn well”.