Prifardd yn poeni am fethu lledaenu neges gwrth-ryfela
Mae mudiad a geisiodd ledaenu eu neges heddychlon ar S4C wedi cael gwybod fod eu hysbyseb yn rhy ddadleuol i’w ddangos.
Yn ôl Cymdeithas y Cymod mae’r corff Clearcast, sy’n penderfynu pa hysbysebion caiff eu darlledu, wedi dweud wrthyn nhw fod yr hysbyseb yn fater o “gontrofersi cyhoeddus” ac wedi penderfynu ei wrthod dan reolau darlledu.
Mae Clearcast wedi cadarnhau eu bod wedi gwrthod yr hysbyseb oherwydd ei natur “wleidyddol”.
Dywedodd Mererid Hopwood, aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas y Cymod, “os yw heddwch yn fater o gontrofersi cyhoeddus yna rhaid bod rhyfel yn perthyn i’r un categori.
“Ac eto, mae’r Lluoedd Arfog wedi cael rhwydd hynt i hysbysebu’n gyson ar S4C.”
Yn ôl Llywydd Cymdeithas y Cymod, Guto Prys ap Gwynfor, mae penderfyniad Clearcast yn “codi cwestiynau sylfaenol am y drefn o benderfynu pa hysbysebion sy’n dderbyniol i’w darlledu yng Nghymru”.
Ymateb S4C
Dywedodd llefarydd ar S4C:
“Clearcast yw’r corff sy’n gweithredu ar draws y diwydiant darlledu er mwyn sicrhau bod hysbysebion yn cydymffurfio â’r rheolau perthnasol.
“Yn yr achos yma, nid yw Clearcast wedi clirio’r hysbyseb gan Gymdeithas y Cymod ar gyfer ei ddarlledu ar y teledu. Mae S4C wedi dangos hysbyseb ar ran y Gymdeithas ar ei gwefan, gan fod hynny’n bosib o dan y rheolau ar gyfer hysbysebu ar-lein.”
Mae Cymdeithas y Cymod nawr yn galw am sefydlu corff annibynnol i Gymru i reoleiddio hysbysebu ar y cyfryngau.
Ymateb Clearcast
Dywedodd llefarydd ar ran Clearcast nad ydyn nhw wedi gwneud penderfyniad terfynol ar yr hysbyseb, ond bod natur “wleidyddol” Cymdeithas y Cymod wedi arwain Clearcast i wrthod yr hysbyseb ar y cynnig cyntaf o dan y Côd Darlledu Hysbysebion.