Mae ffigurau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dangos bod nifer y cwynion yn erbyn meddygon yn 2012 yn uwch nag erioed o’r blaen.

Bu cynnydd o 23% yn nifer y cwynion eleni.

Cafodd 8,781 o gwynion eu gwneud y llynedd, o’u cymharu â 7,153 yn 2010.

Mae’n debygol y bydd un o bob 64 o feddygon yn cael ei archwilio gan y rheoleiddiwr.

Dynion a meddygon hŷn a ddaeth o dan y lach amlaf, yn ôl y ffigurau.

Cafodd y rhan fwyaf o gwynion eu gwneud yn erbyn seiciatryddion, meddygon teulu a llawfeddygon.

Roedd triniaethau, sgiliau archwilio, cyfathrebu gwael a diffyg parch yn gyfrifol am nifer fawr o’r cwynion.

‘Cyfathrebu’

Mae nifer y cwynion ar sail sgiliau cyfathrebu meddygon wedi cynyddu o 69% yn y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd yna gynnydd o 45% ar sail diffyg parch.

Dywedodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol mai materion byd-eang yw’r rhain, ac nad ydyn nhw’n unigryw i Brydain.

Awgrymodd prif weithredwr y Cyngor Meddygol Cyffredinol nad yw’r cynnydd yn nifer y cwynion o reidrwydd yn golygu bod safonau meddygol yn gostwng.

Dywedodd fod cleifion yn llawer iawn mwy parod i gwyno erbyn hyn.

Ychwanegodd: “Y ffaith fwyaf syfrdanol i ddod i’r amlwg eleni yw’r cynnydd yn nifer y cwynion yn erbyn meddygon.

“Ond dydw i ddim yn credu bod mwy o gwynion o reidrwydd yn golygu gofal gwaeth. Yn wir, mae’r dystiolaeth mewn gwirionedd yn trafod lefelau uwch o ofal meddygol ledled y wlad.

‘Cadw llygad barcud’

Bydd rhaid i feddygon newydd ddilyn rhaglen arbennig a bydd canllawiau newydd ar gael i feddygon er mwyn ceisio lleihau nifer y cwynion.

Dywedodd prif weithredwr Conffederasiwn y GIG, Mike Farrar: “Rhaid i ni gadw llygad barcud ar y cwynion hyn. Gallai cynnydd fod yn rhannol o ganlyniad i gleifion, yn hollol deg, yn lleisio’u anfoddhad am eu gofal yn fwy parod, neu fe allai fod yn rhywbeth mwy sylweddol.

“Mae angen i gyflogwyr a meddygon unigol ddadansoddi’r data hwn ac edrych yn ofalus ar yr achosion lle nad yw meddygon wedi bodloni’r safonau y mae cleifion yn eu disgwyl, a pha gamau y mae angen iddyn nhw eu cymryd pan ydyn nhw’n methu.