Angela Burns - 'angen rheoli'
Mae Aelod Cynulliad yn rhybuddio bod rheolau llac ynglŷn â lorïau tramor mewn peryg o achosi “trychineb” ar ffyrdd gorllewin Cymru.

Yn ôl Angela Burns, mae angen rhagor o gydweithio rhwng asiantaethau er mwyn atal gyrwyr tramor rhag gyrru lorïau peryglus ar ffyrdd gwledydd Prydain.

Roedd hi’n dweud ei bod wedi ei “dychryn” gan y ffeithiau a bod y diffyg rheolaeth ar gwmnïau cludo tramor yn “hollol wirion”.

Mae llawer o’r rheiny’n gyrru trwy dde Cymru ar eu ffordd rhwng Iwerddon ac Ewrop, meddai AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

‘Dim grym’

Mae Angela Burns yn honni nad yw’r awdurdodau yng Nghymru’n gallu gwneud digon i’w rhwystro – yn ogystal â bod yn beryglus, meddai, mae’n golygu bod cwmnïau lleol dan anfantais.

Mae nifer y rhybuddio gwahardd sy’n cael eu gosod ar lorïau tramor ar gynnydd, meddai, gydag un cwmni wedi cael mwy na 4,000 mewn pum mlynedd.

Mae’r rheiny’n ymwneud â chario llwyth rhy drwm, diffygion ar y cerbydau a throseddau tacograff, sy’n aml yn golygu gyrru am ormod o oriau.

Mae Angela Burns yn galw am gydweithio gwell rhwng yr heddlu, Llywodraeth y Cynulliad, yr Asiantaeth Ffiniau a VOSA, yr asiantaeth gerbydau.

“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi mewn Swyddogion Trafnidiaeth ond does ganddyn nhw ddim grym a does fawr o gydgysylltu i’w weld rhyngddyn nhw a’r awdurdodau priffyrdd,” meddai Angela Burns.

Meddai’r AC

“Mae Comisiynwyr Trafnidiaeth Prydain yn rhoi trwydded i bob cwmni cludo yng ngwledydd Prydain ac fe fyddan nhw’n dileu trwyddedau, ond does ganddyn nhw ddim grym i atal neu reoli cwmnïau cludo tramor ddod i mewn i’r wlad.

“Ro’n i wedi fy nychryn i glywed sut y mae rhai cwmnïau i’w gweld yn diystyru cyfraith y Deyrnas Unedig gyn llwyr gan roi ein cwmnïau cyfrifol ni dan anfantais lwyr.

“Mae’n ymddangos yn hollol wirion ein bod yn gallu rhwystro nwyddau diffygiol rhag dod i mewn i’r wlad ac eto allwn ni ddim cyffwrdd yn y cwmnïau llai nag egwyddorol sy’n dod â nhw i mewn.

“Mae’n rysait ar gyfe trychineb.”