Cheryl Gillan
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymosod ar y rheilffordd gyflym o Lundain i Birmingham, gan ddweud ei fod yn “syniad ofnadwy”.
Roedd Cheryl Gillan wedi bygwth ymddiswyddo o’r Cabinet pe bai’r rheilffordd, a fydd yn mynd drwy ei hetholaeth, yn cael ei adeiladu.
Cafodd ei disodli gan Ysgrifennydd newydd Cymru, David Jones o Orllewin Clwyd, yr wythnos diwethaf.
Dywedodd fod David Cameron wedi ei gwneud yn glir ei fod eisiau rhywun o Gymru i gynrychioli’r wlad yn y Cabinet.
Ond yn sgil ei diswyddiad cymerodd Cheryl Gillan fantais lawn o’i gallu ymosod ar y cynlluniau i adeiladu rheilffordd HS2, yn ogystal â methiant y llywodraeth i fynd i’r afael â llain lanio newydd Heathrow.
Dywedodd bod y llywodraeth wedi tin droi wrth benderfynu sut i wella isadeiledd trafnidiaeth y wlad, ac y dylen nhw fod wedi gweithredu’n gynt.
Siarad yn blaen
“Rydw i bellach wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb o fod yn Ysgrifennydd Cymru i rywun arall, ac mae hynny wedi caniatáu i fi fynd yn ôl at fy ngwreiddiau,” meddai wrth Sky News.
“Mae’n gyfle i fi siarad yn blaen am fater sy’n effeithio ar fy etholaeth, sef y rheilffordd HS2 erchyll yna.
“Rydw i’n gwybod bod y Prif Weinidog a gweddill fy nghyd-weithwyr yn gwybod fy mod i’n gyfan gwbl yn ei erbyn.
“Ond os ydych chi yn y Cabinet mae’r rhaid cytuno â’r llywodraeth ac roedd gen i ddyletswydd i wneud hynny.
“Nawr rydw i wedi fy rhyddhau. Fe alla’i ystyried fy hun yn ddioddefwr, neu i’r gwrthwyneb. A dweud y gwir rydw i’n ystyried y cyfod presennol yn un cyffrous iawn yn fy mywyd.”
Dywedodd nad oedd y rheilffordd gyflym yn “gynllun Ceidwadol”.
“Mae’n gynllun dinistriol iawn i’r amgylchedd, ac ar ben hynny dydi o ddim yn gwneud synnwyr ariannol.
“Ni fydd y trên yn rhedeg am flynyddoedd eto felly ni fydd yn cael unrhyw effaith ar hybu twf economaidd nawr.
“Beth sydd ei angen heddiw ydi cynllun a fydd yn hwb i isadeiledd y wlad.
“Roedd hynny’n cynnwys trydaneiddio’r rheilffordd i law i Gaerdydd a’r Cymoedd – rywbeth yr oeddwn i wedi lobio’n galed amdano.”