Cheryl Gillan
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi gwadu ei fod wedi achosi i rai gweinidogion lefain yn ystod y broses o ad-drefnu’r Cabinet.

Mae yna adroddiadau bod cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan a’r cyn-Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman wedi llefain ar ôl clywed eu bod nhw wedi colli eu swyddi.

Cyfaddefodd y Prif Weinidog wrth ITV fod y broses yn un “anodd” gan fod rhai o’r gweinidogion a gollodd eu swyddi “heb wneud unrhyw beth o’i le”.

Ychwanegodd: “Pan fod gyda chi dîm enfawr o 300 o Aelodau Seneddol, heriau mawr, mae’n bwysig symud pobl ymlaen a dod â phobl newydd i mewn.

“Mae’n amlwg yn anodd dros ben gan fod gweinidogion sydd wedi gweithio’n galed iawn, oedd heb wneud unrhyw beth o gwbl o’i le, ac roedden nhw’n ymroddedig iawn.”

Pan gafodd ei holi am wneud i bobl lefain, dywedodd David Cameron: “Dydy hynny ddim yn wir o gwbl”.

Wfftiodd David Cameron yr awgrym nad oedd wedi penodi digon o fenywod i swyddi’r Cabinet

Dywedodd: “Mae yna gymaint yno heddiw ag yr oedd cyn yr ad-drefnu.”

“Gadawodd dwy fenyw dalentog iawn y Cabinet, ac ymunodd dwy fenyw dalentog iawn â’r Cabinet. Fe wnes i etifeddu plaid ag ond 19 o fenywod yn Aelodau Seneddol – bellach mae yna oddeutu 50.

“Fe welwch chi ragor o lawer o fenywod ar frig gwleidyddiaeth y Ceidwadwyr yn y dyfodol,” meddai.