Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud nad oes esboniad ganddyn nhw ar hyn o bryd i farwolaeth dynes yn Llandrindod.

Cafodd y corff ei chanfod nos Fawrth mewn tŷ ar Ffordd Trefonnen yn y dref.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw’n ymchwilio i achos ei marwolaeth a bod swyddogion fforensig ar y safle.

Mae disgwyl canlyniadau’r archwiliad post-mortem y bore ma.

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda CID Powys ar 101.