Mae gyrrwr moped 17 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Llanelli ar 23 Awst.

Roedd moped Jay Roper o ardal Llanelli mewn gwrthdrawiad â char Renault Clio tu allan i Dŷ Elwyn yn y dref am 3.20yh ar ddydd Iau, 23 Awst.

Cafodd Jay Roper ei gludo i Ysbyty’r Heath yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod eu hymchwiliadau’n parhau ac maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.