Mae pump o bobl wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i Heol Clevedon yn Llanrhymni am 10.14pm.

Cafodd 25 o bobl eu symud allan o naw fflat tra bo’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd y fflamau.

Dydy’r gwasanaeth tân ddim wedi cadarnhau achos y tân hyd yn hyn, ac mae archwiliad o’r safle’n parhau.