Lee Williams, a gafodd ei ladd yn y ddamwain erchyll brynhawn Iau
Mae Heddlu De Cymru’n dal i ymchwilio i achos damwain erchyll yn Aberdâr brynhawn Iau pryd y cafodd dau ddyn eu lladd.

Wrth apelio am dystion, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dau gerbyd, Nissan Skyline gwyn a Citroen Xsara glas, mewn gwrthdrawiad tua 3 o’r gloch y prynhawn ar ffordd osgoi’r dref.

Y ddau a gafodd eu lladd oedd gyrrwr 38 oed y Citroen, a’r teithiwr yn sedd flaen y Nissan, sydd wedi cael ei enwi fel Lee Williams, 41 oed o Aberaman a thad i ddau o blant.

Mewn datganiad, cyhoeddodd ei wraig Sian a’i ddau fab Harri a Ben y deyrnged hon iddo:

“Roedd Lee yn ŵr, tad, mab, mab yng nghyfraith a chyfaill ardderchog. Mae pawb a oedd yn adnabod yn methu â chredu ei fod wedi mynd. Roedd pawb yn hoff ohono ac ni fydd byth yn cael ei anghofio.”

Roedd wedi cael ei eni a’i fagu yn Aberdâr ac yn gweithio fel rheolwr cynhyrchu yn ffatri botelu dŵr Highland Spring.

Cafodd gyrrwr y car roedd yn teithio ynddo, a phlentyn pedair oed, eu hedfan i’r ysbyty wedi’r ddamwain, ond nid yw eu hanafiadau’n cael eu disgrifio fel rhai peryglus.

Mae Heddlu De Cymru’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi geld y Nissan Skyline dau-ddrws gwyn cyn y gwrthdrawiad  – wrth iddo deithio o ganol tref Aberdâr ar hyd ffordd osgoi’r A4059 tuag at gylchfan Asda – i gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111.