Llanidloes, Powys (firstjaytee CCA 2.0)
Mae mam i bedwar o blant o Bowys yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol i herio’r ddeddfwriaeth newydd yn erbyn sgwatwyr.

Mae Irene Gardiner wedi byw yn ei bwthyn ym mhentref Newchapel ger Llanidloes fel sgwatiwr ers 11 mlynedd.

Fe allai’r wraig 49 oed, sy’n rhannu’r tŷ gyda’i dau blentyn ieuengaf Hazel, 15 a Sol, 13, gael ei herlyn o ganlyniad i newid yn y gyfraith a ddaeth i rym heddiw.

O dan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, gallai pobl sy’n parhau i sgwatio mewn eiddo wynebu dirwy o £5,000 neu hyd yn oed garchar.

Dywed Irene Gardiner fod y newidiadau’n annheg, gan ei bod hi wedi talu treth cyngor ers symud yno. A dywed cyfreithwyr sy’n gweithredu ar ran y weithwraig siop elusen eu bod nhw’n credu y byddai unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn ei herbyn yn groes i’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Dywed Ugo Hayter, un o’r cyfreithwyr sy’n gweithredu ar ran Irene Gardiner, y gallai costau’r ddeddf newydd fod cymaint â £790 miliwn, wrth i arian trethdalwyr gael ei wario ar brosesu sgwatwyr trwy’r llysoedd a chynghorau’n gorfod ailgartrefu pobl a gaiff eu troi allan.

“Bydd y ddeddwriaeth hon yn effeithio ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac fe fydd yn faich pellach ar wasanaethau cyhoeddus,” meddai.

“Mae deddf droseddol a sifil yn bod eisoes sy’n galluogi perchnogion eiddo i roi sgwatwyr allan yn gyflym, a fydd perchnogion tai ddim yn cael eu diogelu’n fwy gan y ddeddfwriaeth yma. Y cyfan y bydd yn ei wneud fydd troi’r digartre’n droseddwyr.”