Meri Huws
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu fod Cyngor Sir Merthyr Tudful wedi torri ei gynllun iaith.

Cafodd adroddiad yr ymchwiliad,  a oedd wedi ei gynnal  yn wreiddiol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ei gyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg heddiw.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â phedwar allan o’r pum maes, sef cyfathrebu ar bapur, cyfarfodydd eraill gyda chwsmeriaid, cyhoeddi ac argraffu deunyddiau, a ffurflenni a deunydd esboniadol.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi derbyn cwynion a oedd yn honni fod y Cyngor yn cyhoeddi deunyddiau hyrwyddo uniaith Saesneg, yn cyfathrebu â’r cyhoedd ar bapur yn Saesneg, yn methu â darparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhwng swyddogion â’r cyhoedd, ac yn cyhoeddi taflenni gorfodaeth parcio sifil yn uniaith Saesneg.

Yn ystod y broses o gynnal yr ymchwiliad, cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei ddiddymu a chafodd y cyfrifoldeb am ymchwiliadau statudol i weithrediad cynlluniau iaith eu trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Nôl ym mis Ionawr, yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith, roedd Meri Huws wedi dweud bod “amheuon difrifol” bod Cyngor Merthyr yn torri ei gynllun iaith ei hun.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i’r Cyngor er mwyn iddo gydymffurfio â’i Gynllun Iaith yn y dyfodol.

Bydd swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn monitro’r cyngor i sicrhau eu bod yn  gweithredu’r argymhellion.

Mae’r argymhellion hynny’n cynnwys:

  • penodi uwch swyddog, pwyllgor a rhoi gweithdrefn glir yn ei lle i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Gynllun Iaith
  • sicrhau gweithdrefnau priodol ar gyfer cyhoeddi deunydd ysgrifenedig yn ddwyieithog a sicrhau ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau ymysg staff
  • cael gwybodaeth fanwl am allu presennol y Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, a hynny drwy wybod lefelau sgiliau iaith Gymraeg ei staff a pharatoi Strategaeth Sgiliau Ieithyddol – a fydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer hyfforddiant iaith ymysg materion eraill
  • paratoi cynllun cadarn, ag iddo amserlen fanwl a chlir, ar gyfer datblygu a chynnal gwefan ddwyieithog sy’n sicrhau fod gan y Cyngor bolisi eglur ar ddefnyddio’r Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol, megis Facebook a Twitter a’u tebyg