Mae undeb llafur mwyaf y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi condemnio Prif Gwnstabl Heddlu Gwent am dderbyn bonws gwerth dros £6,000.

Cafodd Carmel Napier gynnig bonws o £6,653 – 5% o’i chyflog blynyddol o £133,068 – am ei bod wedi cyrraedd targedau perfformio a osodwyd iddi’n 2011/12.

Fe wrthododd ei dirprwy, Jeff Farrar, fonws o £5,444 ar ben ei gyflog blynyddol o £108,882. Ni ddywedodd pam wrthododd y cynnig.

Mewn cyfarfod neithiwr, roedd aelodau o UNISON ymysg staff yr heddlu yng Nghwmbrân wedi’u “cynddeiriogi” o glywed fod Carmel Napier wedi derbyn y bonws er gwaetha’r ffaith fod nifer o’i staff yn wynebu colli’u swyddi o dan gynigion diweddaraf y Prif Gwnstabl.

“Rydym yn hynod siomedig i glywed fod y Prif Gwnstabl yn gwobrwyo ei hun gyda bonws,” meddai Andre Woodman, trefnydd rhanbarthol UNISON, “yn enwedig o ystyried fod ei dirprwy ei hun wedi gwrthod un.”

“Mae’n braf gweld ein bod ni i gyd efo’n gilydd ar hyn!”

Does dim un Prif Gwnstabl arall yng Nghymru wedi derbyn bonws yn 2011/12.