Cafodd hofrennydd achub ei alw neithiwr ar ôl i gerddwraig gael ei chwythu i’r llawr gan wynt cryf ar lethrau’r Wyddfa.

Roedd y ddynes 50 oed, nad oedd yn lleol i’r ardal, yn cerdded ar y pryd ger y caffi hanner-ffordd, ar lwybr Llanberis.

Cafodd tîm achub mynydd Llanberis ei alw a chafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau i’w phen.