Mae Heddlu’r Gogledd yn dal i holi dyn heddiw mewn perthynas â bygythiad i ffrwydro fflat yn Wrecsam ddoe.

Bu’n rhaid i drigolion adael eu cartrefi yn Rhodfa Wilson  ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau fod dyn yn ceisio creu ffrwydrad nwy yn ei fflat.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu’r tŷ gwelon nhw’r dyn yn tywallt hylif tebyg i betrol dros ei hun.

Fe lwyddodd swyddogion yr heddlu i berswadio’r dyn 47 oed i adael y fflat a chafodd ei arestio am godi cynnwrf. Mae’n parhau i gael ei holi heddiw.

Dywedodd yr heddlu iddyn nhw ddod ar draws pecyn yn y fflat oedd yn edrych yn amheus. Bu’n rhaid galw uned difa bomiau o Gaer er mwyn cael golwg arno, a chadarnhaodd y swyddogion fod y pecyn yn ddiogel.

Diolchodd y Prif Arolygydd David Roome y trigolion lleol am fod yn barod i gydweithio.