Ched Evans
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 51 oed o Essex fel rhan o’u hymchwiliad i achosion o gyhoeddi enw dynes ifanc ar Twitter gafodd ei threisio gan y pel-droediwr Ched Evans.
Cafodd cyn-beldroediwr Sheffield United ei garcharu am 5 mlynedd ym mis Ebrill am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.
Yn gynharach y mis hwn fe fethodd yn ei gais cyntaf i apelio yn erbyn ei ddyfarniad.
Dywed Heddlu’r Gogledd bod y dyn gafodd ei arestio wedi ei ryddhau ar fechniaeth.
Mae o leiaf 17 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad i sylwadau sydd wedi cael eu gwneud am y ferch ar Twitter.