Jamie Bevan
Mae disgwyl i ymgyrchydd iaith gael ei ryddhau o’r carchar yfory ar ôl treulio hanner ei ddedfryd 35 diwrnod dan glo.

Treuliodd Jamie Bevan ddeng niwrnod yng ngharchar Caerdydd cyn cael ei drosglwyddo i orffen ei ddedfryd yng ngharchar agored Prescoed ger Pontypŵl.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu rali fore Iau i’w groesawu nôl i Ferthyr Tudful, ac mae disgwyl i Jamie Bevan annerch y gynulleidfa yng nghanolfan Gymraeg Soar ym Merthyr.

Yn ystod ei gyfnod yng ngharchar Caerdydd mynegodd Jamie Bevan ei anfodlonrwydd nad oedd ffurflenni dwyieithog ar gael i garcharorion, a chysylltodd Comisiynydd y Gymraeg â’r carchar er mwyn sicrhau ei fod yn cael siarad Cymraeg dros y ffôn.

Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu am wrthod talu dirwy ar ôl torri i mewn i swyddfa etholaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Jonathan Evans yng Nghaerdydd.

Dywedodd Jamie Bevan nad oedd am dalu’r ddirwy am fod y llythyr yn uniaith Saesneg, a thra ei fod yn y carchar ymddiheurodd Gwasanaeth y Llysoedd am anfon gohebiaeth uniaith Saesneg ato.